Croeso i Theatr Y Lyric

Croeso i’r Lyric Caerfyrddin! Dyma'n lleoliad mwyaf, ac mae’r adeilad hanesyddol wedi ei foderneiddio’n ddiweddar gydag ailwampiad mawr werth £1.5 miliwn. Yn ogystal â bale syfrdanol a chynyrchiadau llwyfan mawr, gellir trosi’r Lyric erbyn hyn i leoliad cabare agos atoch gyda byrddau dan olau cannwyll i ddod â digwyddiadau cyffrous i chi trwy Gabare Coch Cymru a chomedi amgen megis Clwb Comedi Jongleurs ar daith.