Aros yn yr Ardal

Gallwch wneuf y gorau o'ch amser hamdden tra byddwch chi gyda ni yma yn Y Lyric, Caerfyrddin.

Mae'r dref hynaf yng Nghymru wedi tyfu o amgylch amddiffynfeydd cadarn y Rhufeiniaid, ac mae'n gyfuniad o elfennau modern a threftadaeth chwedlonol a milwrol. Ergyd carreg o'r castell Normanaidd - a saif yn rhwysgfawr uwchlaw un o'r dyffrynnoedd pertaf yng Nghymru yn ddiamheuaeth, lle mae afon Tywi yn llifo'n urddasol fel arian byw ar ei thaith hamddenol tuag at y môr - y mae Rhodfa'r Santes Catrin sy'n ganolfan fodern i'r unfed ganrif ar hugain. Ymhlith pyrth y Rhodfa y mae tyrrau gwydr ysblennydd yr holl siopau mawrion ac eto, os camwch o'r neilltu, byddwch yn crwydro strydoedd hynafol lle gallwch ddod o hyd i siopau bychain o bob math sy'n gwerthu amrywiaeth o bethau, gan gynnwys cawsiau o bob lliw a llun, dillad ffasiynol a'r gwinoedd gorau. Mae Marchnad Caerfyrddin gerllaw ar ei newydd wedd (sy'n gyfuniad o'r hen a'r modern) yn lle gwych i gael gafael ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys danteithion megis Ham Caerfyrddin - y mae'r Tywysog Siarl mor hoff ohono - bara lawr a chocos.

Mae llawer o atyniadau i chi ymweld wrth aros yn yr ardal, fel Rheilffordd y Gwili, tref hardd Talacharn lle byddwch yn gallu ymweld â thŷ cwch Dylan Thomas a chastell a thraeth hyfryd Llansteffan. Os hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn fwy egnïol ewch i lawr i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin i gael nofio, rhedeg, chwysu neu beth bynnag arall rydych yn hoffi ei wneud yn y gampfa. Os ydych yn barod i deithio ychydig yn fwy i ffwrdd o Caerfyrddin mae yna lawr i wneud i’r holl deulu yn Fferm Folly, Oakwood a Bluestone, ac os nad ydych wedi bod yno o'r blaen rhaid i chi ymweld a Dinbych y Pysgod.

Pa beth bynnag byddwch eisiau, does dim yn rhy bell o’r Lyric. Am wybodaeth pellach am atyniadau a gwestai yr ardal, ymwelwch a gwefan Darganfod Sir Gaerfyrddin.