Gwybodaeth Archebu

Yn Bersonol

Gallwch alw mewn i unrhyw un o’n lleoliadau i brynu tocynnau yn ystod oriau agor y swyddfa docynnau. Os ydych yn prynu eich tocynnau yn y Ffwrnes mae gennym gaffi ardderchog a chyfleusterau WiFi am ddim.

Dros y Ffôn

Os na allwch ddod mewn person, fedrwch ffonio'r swyddfa. Rhif ffôn y swyddfa docynnau yw 0345 226 3510, ac mae’r rhif wedi’i gysylltu a phob un o’n theatrau, felly ni fydd rhaid i chi aros mewn ciw am amser hir. Unwaith bydd aelod o staff yn rhydd mi fyddant yn barod i’ch helpu. Gan bod ein swyddfa docynnau yn un cyfannol, fe allwch brynu tocynnau am unrhyw berfformiad yn unrhyw swyddfa docynnau. Cofiwch hefyd y gallwn ddanfon eich tocynnau allan atoch chi cyn y perfformiad. (Codi’r tâl post o £1)

Ar y Wê

Os ydych yn brysur ac heb gael amser i alw mewn neu i ffonio, gellir prynu tocynnau am ein perfformiadau ar y wê o gysur eich cartref unrhyw amser sy’n gyfleus. Cliciwch ar ddolen Beth Sydd Ymlaen a bydd ein system docynnau ar lein syml yn eich galluogi i brynu tocynnau a hyd yn oed dewis eich hoff sedd. (Ni does Ffioedd archebu ychwanegol gennym mwyach. Yr hyn a dalwch amdano yw’r hyn a gewch! Mae uchafswm o 8 tocyn am bob perfformiad.)

Amseroedd Agor

Dydd Mawrth - Dydd Gwener, 11yb - 3yp
Mae'r swyddfa docynnau yn agor 1 awr cyn y perfformiad ar ddiwrnodau sioe.