Lleoedd

Y Prif Dŷ

Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r Lyric efallai y byddwch yn meddwl ei fod yn theatr fach. Fodd bynnag, byddwch yn newid eich meddwl wrth i chi fynd i mewn i'r prif dŷ gan ei fod y gofod mwya yn Theatrau Sir Gâr. Mae ganddo dair lefel, stalls, mezzanine a’r Oriel sydd a 593 o seddi, ond mae rhai o'r seddau yn yr Oriel wedi eu cyfyngu ychydig. Hen adeilad yw'r Lyric ac ni allem newid ffabrig yr adeilad ond, gallwn newid rhai pethau. I wneud yr Awditoriwm yn fwy hyblyg newidiwyd y "stalls" a symud y chwe rhes cynta' er mwyn ein galluogi i raglennu perfformiadau cabaret i mewn i'r gofod. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus a gweithio'n wych gyda sioeau megis "Bluestocking Lounge."

Y Stiwdio

Mae’r stiwdio yn y Lyric yn ofod newydd a gyflwynwyd yn ystod y gwaith adnewyddu yn 2007. Mae'n ystafell sylfaenol iawn ond mae'n ddelfrydol ar gyfer gweithdai a dosbarthiadau. Mae llawer o'n cwmnïau sydd yn defnyddio'r gofod hwn yn redeg drwy rai o'u sioe cyn iddyn nhw fynd ar y prif lwyfan. Pan fyddant yn symud ymlaen i'r llwyfan maent yn defnyddio'r stiwdio fel ystafell wisgo fawr arall. Ar adegau mae rhai cwmnïau wedi defnyddio'r gofod i gynnal eu derbyniad cyn y perfformiad lle maent yn gwahodd gwesteion i fyny am ddiod a sgwrs cyn eu bod yn cymryd eu seddi.