Sut i ddod o hyd i ni

Mae’r Miners’ wedi ei leoli ychydig oddi ar y brif ffordd yn Rhydaman ac o fewn pellter cerdded i'r orsaf bysiau a threnau. Wrth ymyl y theatr mae maes parcio mawr sy'n golygu os byddwch yn penderfynu i yrru i'r theatr, ni fydd yn rhaid i chi gerdded yn bell. Ni fyddwch yn gallu gweld y theatr o'r brif ffordd gan ei fod yn eistedd y tu ôl i "Miners’ Welfare." Isod fe welwch wybodaeth ychwanegol ar sut i gyrraedd y Miners’:

Mewn Car

P'un a ydych yn dod o'r dwyrain neu'r gorllewin, y ffordd orau i gyrraedd y Miners’ 'yw gyrru i Bont Abram sef diwedd yr M4 a dilynwch yr arwyddion i Rydaman. Unwaith y byddwch yn cyrraedd Rhydaman byddwch yn dod at groesffordd, trowch i'r chwith i Lôn Tir-Y-Dail a chymerwch y troad cyntaf i'r dde. Bydd hyn yn mynd â chi i mewn i faes parcio ac fe welwch y Theatr ym mhen pellaf y maes parcio.

Ar gyfer unrhywun sy’n defnyddio SatNav, côd post y Miners’ yw SA18 3DN

Parcio

Arhosiad Hir - Mae maes parcio arhosiad hir ger y theatr ac fe'i gelwir yn Maes Parcio Stryd y Gwynt. Mae parcio yn rhad ac am ddim dros nos 6:00-8:00 a phob Dydd Sul.

Am wybodaeth cyfoes am y meysydd parcio i gyd ymwelwch â thudalen barcio’r cyngor neu'r wefan neu cliciwch yma.
(http://www.carmarthenshire.gov.uk/english/transport/parking/pages/carparkcharges.aspx)

Ar goets neu fws

Mae gorsaf fysiau Rhydaman wedi ei leoli yng nghanol y dref a dim ond 3 munud ar droed o'r theatr.

Am wybodaeth teithio cysylltwch a:

First Cymru Group: www.firstgroup.com neu ffoniwch 01792 512255

Ar Y Trên

The train service to Ammanford is very limited. Please check with First Great Western & Arriva Trains Wales for rail information.

Mae'r gwasanaeth trên i Rydaman yn gyfyngedig iawn. Gwiriwch gyda First Great Western a Threnau Arriva Cymru i gael gwybodaeth rheilffyrdd.

www.gwr.com | www.networkrail.co.uk | www.arrivatrainswales.co.uk