A Christmas Carol – A Live Radio Play | Glowyr

Lighthouse Theatre yn cyflwyno 
cynhyrchiad WBFR Playhouse of the Air 
A Christmas Carol – A Live Radio Play 
Addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Joe Landry gyda cherddoriaeth gan Kevin Connors 

Mae'r Lighthouse Theatre yn ôl y gaeaf hwn gyda fersiwn radio byw o stori glasurol dragwyddol Dickens, 'A Christmas Carol', yn llawn naws Nadoligaidd, cyfarfyddiadau ag ysbrydion, caledi ac achubiaeth. 
Efrog Newydd, 1946. Mae'r Ail Ryfel Byd newydd ddod i ben. Mae actorion WBFR Playhouse of the Air yn cwrdd yn y stiwdio ar gyfer eu darllediad blynyddol ar Noswyl Nadolig. Pa well sgript i'w cyfarch nhw eleni na'r glasur gan Dickens a luniodd y Nadolig ei hun? 
Daw llond llaw o actorion o'r Unol Daleithiau â dwsinau o gymeriadau Fictoraidd o Lundain y dyddiau a fu yn fyw, wrth i'r stori gyfarwydd gael ei hadrodd. Mae tri ysbryd yn mynd ag Ebenezer Scrooge ar daith i ddysgu gwir ystyr y Nadolig iddo. 
Yn dilyn llwyddiant 'It's A Wonderful Life' a 'Miracle on 34th Street', mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd i ateb y galw gyda chlasur Nadoligaidd arall, wedi'i gosod mewn stiwdio darlledu byw yn Efrog Newydd yn yr 1940au. 

Cyfarwyddwyd gan Joe Harmston 
Dyluniwyd gan Sean Cavanagh 
Artist Foley, cyfarwyddwr cerdd a cherddoriaeth wreiddiol ychwanegol – Kieran Bailey Cyd-gynhyrchiad Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd

Tocynnau £15 & £13

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: The Miners' Ammanford

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: The Miners' Ammanford