An Evening with Nigel Owens, MBE

TMH Promotions yn cyflwyno: Noson yng nghwmni Nigel Owens MBE.

Treuliwch noson yng nghwmni dyfarnwr sydd wedi torri record y byd ac sy'n un o gymeriadau mwyaf ysbrydoledig a doniol rygbi sef Nigel Owens. Bydd hon yn noson o adloniant i'w chofio i unrhyw gefnogwr rygbi wrth i Nigel rannu straeon am ei fywyd a'i yrfa fel dyfarnwr rygbi o'r radd flaenaf. A hynny yng nghwmni Rupert Moon a fydd yn cyflwyno'r noson.

Beth am newid i docyn cwrdd a chyfarch cyn y sioe? Bydd y noson yn dechrau am 6pm i'r cefnogwyr mwyaf brwd a bydd y tocyn yn cynnwys diodydd, ynghyd â ffotograff gyda Nigel Owens i fynd adref gyda chi.

Ni fydd modd llofnodi eitemau yn ystod y noson oherwydd cyfyngiadau amser.

Mae angen i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: TMH Promotions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: TMH Promotions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: The Lyric Carmarthen