Ceri Dupree: A Star Is Torn
**Nodwch mai dyddiad a aildrefnwyd yw hwn ar gyfer 2022. Bydd tocynnau ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd hwn a bydd y theatr yn cysylltu â'r bobl hynny sydd â thocynnau**
Mae Ceri Dupree wedi perfformio ar draws y DU, yn Ewrop a thramor – bron ym mhob man – ac mae wedi dynwared bron pob menyw adnabyddus yn y byd ar ryw adeg neu'i gilydd.
O ran perfformio drag, fel y dywedodd Paul O'Grady amdano unwaith, "Mewn cae sy'n llawn asynnod mae Ceri yn geffyl rasio!" Wel, bydd angen ichi farnu dros eich hunan! Dewch i weld sioe ac fe gewch weld pob math o bobl megis Joan (Rivers a Collins), Shirley Bassey, Lady Gaga, Cher, Camilla, Tina Turner, Ei Mawrhydi y Frenhines, y Three Degrees (sut mae e'n gwneud hynny?) a llawer, llawer mwy!
Mae pob sioe yn wahanol gan fod Ceri'n dewis hyd at 15 o fenywod i'w perfformio mewn noson, a hynny gan ganu'n fyw, dynwared, perfformio comedi stand-up, perfformio sgetshis a chaneuon wedi'u hysgrifennu'n benodol a thro clyfar ar y diwedd.
Dyddiadau Sioe
- 18 Mawrth, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
