FOW

Cynhyrchiadau Deaf & Fabulous a Theatr Taking Flight yn cyflwyno

                                                Fow

cyd-gynhyrchiad gydag Y Neuadd Les a Theatrau Sir Gâr

Sgwennwyd gan Alun Saunders

Wedi’i seilio ar syniad gan Stephanie Back

Cyfarwyddwyd gan Elise Davison

Drama newydd sbon - gwyliwch ar-lein ym mis Ebrill.

Mae Lissa’n amddiffynol, yn fyddar ac yn methu yn y brifysgol - y peth dwetha mae hi angen yw i gwympo mewn cariad.

Bachan difalais o Bontardawe gyda breuddwyd roc a rôl yw Siôn, dros ei ben a’i glustiau mewn cariad ac ar fîn gweld ei galon yn ddeilchion.

A Josh… Wel ma’ Josh jyst yn benderfynol o guro’r end of level Boss.

Yn llawn hiwmor, gonestrwydd a chwalfa gyfathrebu, mae Fow yn gofyn sut mae cwympo mewn cariad heb i ni glywed ein gilydd, gan ddarganfod fod wastod modd o oresgyn ‘mond i ti geisio.

Stori gariad twym-galon wedi’i rhannu arlein mewn amryw iaith, gan gynnwys BSL, Cymraeg a Saesneg.

Yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed, mae Fow yn cynnwys capsiynau.

Os oes angen disgrifiad sain arnoch, e-bostiwch ni theatrau@sirgar.gov.uk ac fe wnawn eich helpu gyda’ch archebiad.

Sesiynau Holi ac Ateb AM DDIM i ddilyn y sioe ar y diwrnodau canlynol:

Dydd Iau 29 Ebrill

Dydd Mawrth 4 Mai

Fow (diffiniad): Patrymau gwefusau BSL sy'n cyd-fynd ag arwydd sy'n golygu methiant i gyfathrebu neu ddeall. Nid oes cyfieithiad uniongyrchol yn y Gymraeg na'r Saesneg, y cyfieithiad agosaf yw 'Wnes i ddim deall hynny!'

Oni bai eich bod yn rhywun sy'n deall BSL, Cymraeg a Saesneg, bydd rhannau o'r sioe a fydd yn 'fow' i chi. Dyma sut rydym am i chi brofi'r perfformiad ac nid yw'n gamgymeriad technegol.

Fodd bynnag, os hoffech brofi'r perfformiad gyda'r sicrwydd o gael isdeitlau Saesneg drwy gydol y sioe, bydd gennym hefyd fersiwn ar gyfer deiliaid tocynnau sydd ag isdeitlau llawn yn Saesneg. 

“Accessible theatre? Do it properly…Do it like this” The Guardian ar peeling/Taking Flight.

“Funny & moving”British Theatre Guide ar ddrama arobryn Alun Saunders, A Good Clean Heart.

A heartwarming, uplifting tale” Wales Arts Review ar A Good Clean Heart

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Deaf & Fabulous Productions & Taking Flight Theatre Company

Info Cyflym

  • Cwmni: Deaf & Fabulous Productions & Taking Flight Theatre Company