He Writes the Songs: The Manilow Songbook

Sicrhewch eich bod yn barod am lawer iawn o ganeuon gwych yn y sioe fawr hon sy'n talu teyrnged i Barry Manilow. Mewn sioe ar ffurf cyngerdd, bydd y perfformiwr byd-eang o Vancouver, Bryant Olender, yn arwain cast a band o'r radd flaenaf, gan fynd â chi ar daith gerddorol drwy fywyd y seren. Mae'r canwr eithriadol hwn yn dwlu ar gerddoriaeth Barry, ac mae wedi bod yn 'ffan' ers llawer o flynyddoedd. Cafodd Bryant lwyddiant mawr wrth weithio fel cyfarwyddwr cerddoriaeth a chyfeilydd i Michael Bublé. Mae'n perfformio yn Vancouver yn aml ac mae wedi perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth i ystod o artistiaid ac ar y teledu.

Bydd y sioe yn llawn caneuon megis Mandy, Could It Me Magic, Even Now, Copacabana, I Can't Smile Without You, Weekend in New England, Bermuda Triangle, New York City Rhythm a llawer mwy.

Mae angen i unrhyw un sy'n dwlu ar Manilow neu gerddoriaeth fyw ddod i weld y sioe hon a fydd yn codi'r galon. Archebwch eich tocynnau nawr i osgoi cael eich siomi.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Crowded House Entertainments
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE MUSIC
  • Theatr: Ffwrnes

Info Cyflym

  • Cwmni: Crowded House Entertainments
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE MUSIC
  • Theatr: Y ffwrnes