Jack and the Beanstalk | Lyric

Ymunwch â ni am GAWR o bantomeim y Nadolig yma!

Ffi-Ffa-Ffo-Ffym, mae Theatrau Sir Gâr yn falch o gyflwyno pantomeim hudolus ar gyfer 2023 – 'Jack & the Beanstalk'.

Nid oes gan ein harwr, Jack, ei fam, Dame Trott, na'i frawd geiniog rhyngddynt, ac mae cawr barus yn codi braw ar eu pentref bach. A fydd rhaid iddyn nhw werthu Blodwen'r fuwch er mwyn goroesi? A all Jack drechu'r cawr, ennill calon y ferch y mae'n ei charu a throi ffawd y Trotts er gwell?

Bydd gan Theatrau Sir Gâr bopeth sydd ei angen ar gyfer panto llawn hwyl i'r teulu cyfan, gyda dihiryn drwg, cymeriad comig anlwcus, a hen wraig banto ddoniol, yn ogystal â chaneuon hudolus a llond gwlad o hwyl slapstic.

Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer y panto hwn i'r teulu cyfan a 'mwww-ynhewch'!

Premiwm 

Sadwrn 16th 2yp, Sul 17th 2yp, Sadwrn 23rd 2yp & 6yh, Sul 24th 11yb & 2yp, Mawrth 26th 2yp, Mercher 27th 2yp & 6yh, Iau 28th 2yp & 6yh 

Safonol 

Gwener 15th 7yn, Sadwrn 16th 6yh, Sul 17th 6yh, Gwener 22nd 7yn 

Arbedwr 

Iau 14th 7yn, Iau 21st 2yn


Perfformiad ymlaciedig: Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr, 18:00. Tony Evans fydd y cyfieithydd.

Beth yw perfformiad ymlaciedig?

Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'n tim Swyddfa Docynnau.


Perfformiad BSL: Dydd Sul 17 Rhagfyr, 18:00

Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)?

Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Fel arfer, bydd y cyfieithydd yn sefyll neu'n eistedd ar ochr y llwyfan. 


Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: The Lyric Carmarthen