Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit
Mesdames a Messieurs, a gaf eich tocynnau os gwelwch yn dda?
Mae Pinch Punch yn eich croesawu i Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit, sef dirgelwch llofruddiaeth hollol feiddgar sy'n cael ei ddyfeisio ar y pryd lle mae lladd y cast a datrys y dirgelwch yn eich dwylo chi. Gallwch ddisgwyl acenion amheus ac alibïau gwan, ynghyd â hynt a helynt dirgelwch llofruddiaeth hen ffasiwn.
Mae pedwar cymeriad yn mynd ar drên, ond ni fydd pawb yn goroesi... Diolch byth, mae ditectif byd-enwog ar y trên, yn barod i ddatrys yr achos.
Ond pwy yw'r llofrudd? Dim ond un person yn y sioe sy'n gwybod — y llofrudd ei hun! Allwch chi helpu'r ditectif i ddatrys yr achos?
Gan ddefnyddio straeon ac awgrymiadau gan y gynulleidfa, dewch i wylio Pinch Punch yn creu drama lofruddiaeth hollol unigryw. Os ydych chi'n dwlu ar gomedi neu ddirgelwch llofruddiaeth, dyma'r sioe i chi!
- 22 Ion, 14:30 ARCHEBWCH NAWR
- 22 Ion, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Pinch Punch
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Pinch Punch
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen