Milkshake! Live - Milkshake Monkey's Musical

 

All Milkshake! Monkey ddim aros i lwyfannu sioe gerdd drawiadol newydd i chi i gyd! Ond pan gaiff ofn llwyfan, daw ei hoff ffrindiau Milkshake! i'w helpu, gan greu'r sioe orau a welsoch erioed!

 

Byddwch yn rhan o'r cynhyrchiad arbennig hwn wrth i chi ddysgu'r caneuon a'r dawnsiau anhygoel gyda'ch hoff ffrindiau Milkshake!, a gwylio wrth i'r gerddoriaeth, y goleuadau, y gwisgoedd a'r llwyfan ddod at ei gilydd. Gyda ffrindiau Milkshake! gwych, mae unrhyw beth yn bosibl.

 

Yn serennu Sam Tân, Noddy, Shimmer & Shine, Digby Dragon, Wissper, Nella the Princess Knight a'r Floogals, ochr yn ochr â dau gyflwynydd Milkshake!, mae gan y sioe newydd sbon hon ddigon o chwerthin, rhyngweithio â'r gynulleidfa a llond gwlad o hwyl i gael pawb ar eu traed! Dyma sioe i'r teulu cyfan na allwch ei cholli!

 

Hyd: 2 x act 30 munud ac egwyl 20 munud

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Nett UK Ltd
  • Categori: Children and Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Nett UK Ltd
  • Categori: Children and Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli