Owen Money’s Jukebox Heroes 3 - Lyric

Wedi llwyddiant ysgubol Owen Money’s Jukebox Heroes yn 2016 ac yna Owen Money’s Jukebox Heroes II yn 2018; mae Owen Money yn ei ôl â sioe fyw arall llawn talent sy'n cynnwys cerddoriaeth a glywir ar ei raglenni radio sy'n boblogaidd ar y penwythnos ar BBC Wales; heb anghofio ei gomedi unigryw a'i ‘Welsh Whit’!

Ie wir, Owen Money’s Jukebox Heroes III ….

Yn ymuno ag Owen ar y llwyfan bydd y band arbennig ‘The Travelling Wrinklies’ a fydd yn cyfeilio i rai actau teyrnged enwogion y byd cerddoriaeth...

Bydd Owen a'r band yn cyfeilio i lais godidog Alex John wrth iddynt ail-greu synau arloesol y Beach Boys …

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu wrth i Katie Mittell dalu teyrnged i rai o'r unawdwyr enwocaf megis Aretha Franklin, Etta James a Nina Simone …

Bydd Jeff Phillips yn camu i'r llwyfan fel yr enwog Neil Diamond...

Bydd Sara Jones yn dod i'r llwyfan â phortread arbennig o Miss Tina Turner.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Rainbow Valley Productions
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE ENTERTAINMENT
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Rainbow Valley Productions
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE ENTERTAINMENT
  • Theatr: The Lyric Carmarthen