Pryd Mae’r Haf? - Live Stream

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar

Pryd Mae’r Haf?

gan Chloë Moss

Trosiad gan Gwawr Loader

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.

Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?

Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes. Bydd y perfformiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.

“Drama ddoniol, dyner wedi ei chyfarwyddo’n fedrus” - Barn

Canllaw oed: 14+ Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Archebwch ar-lein

Perfformiad 1 (ffrwd fyw) 13/05/2021 8pm - Archebwch nawr.

Perfformiad 2 (ffrwd fyw) 14/05/2021 8pm - Archebwch nawr.

Perfformiad 3 (ffrwd wedi'i recordio) 20/05/2021 1.30pm - Archebwch nawr.

Perfformiad 4 (ffrwd wedi'i recordio gyda BSL) 20/05/2021 8pm- Archebwch nawr.

Perfformiad 5 (ffrwd wedi'i recordio gyda chapsyniau Saesneg) 21/05/2021 8pm - Archebwch nawr.

Cast

Aron Cynan – Luke, Ella Peel – Julie, Cellan Wyn – Christie

Tîm Creadigol

Awdur: Chloë Moss

Awdur y Trosiad: Gwawr Loader

Cyfarwyddwr: Sion Pritchard

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans

Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins

Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield

Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elin Phillips

Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd

Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn


Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru
  • Categori: WELSH LANGUAGE DRAMA

Info Cyflym

  • Cwmni: Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru
  • Categori: WELSH LANGUAGE DRAMA