Russell Kane: The Fast and the Curious

Mae wedi dychwelyd. Mae'r sioe deithiol newydd sbon wedi cyrraedd. Bydd injan chwerthin tyrbo Russell, sydd â mwy o egni na ffatri Duracell, yn edrych ar gariad, teulu a bywyd - gan brofi unwaith eto fod y chwim a’r chwilfrydig yn ein plith yn gweld mwy o bethau ac yn gwneud mwy o bethau. Fel digrifwr sydd wedi ennill llu o wobrau, cyflwynydd, actor, awdur ac ysgrifennwr sgriptiau, mae Russell Kane yn fwyaf adnabyddus am ymddangos ar raglen BBC Three 'Stupid Man, Smart Phone' ac am gyflwyno tair cyfres o 'Live At The Electric' ar BBC Three. Ymhlith ei ymddangosiadau eraill ar deledu y mae 'Live At The Apollo' (BBC One), 'Unzipped' (BBC Three), 'Celebrity Juice' ac 'I’m A Celebrity...Get Me Out of Here Now' (ITV2). Ar ôl iddo ennill gwobr y Sioe Orau yng Ngwobrau Comedi Caeredin, aeth Russell ati i greu hanes, drwy fod y digrifwr cyntaf i ennill Gwobr Caeredin a Gwobr Barry Gŵyl Gomedi Melbourne yn yr un flwyddyn.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Off the Kerb
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE ENTERTAINMENT
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Off the Kerb
  • Categori: ENGLISH LANGUAGE ENTERTAINMENT
  • Theatr: The Lyric Carmarthen