Russian National Ballet: The Nutcracker

The Nutcracker – Un o ffefrynnau'r Nadolig.

Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Nutcracker y llynedd, mae Bale Cenedlaethol Rwsia yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig i'ch hudo â'r cynhyrchiad hyfryd o The NutcrackerThe Nutcracker - chwedl dylwyth teg swynol a charedig yw un o berlau repertoire Tchaikovsky.

Byddwch yn barod i fynd i fyd newydd hudolus – gallai'r Nutcracker yn y bale hwn fod yn dywysog hardd mewn cuddwisg.

Mae'r stori Nadolig wreiddiol yn seiliedig ar The Nutcracker and the Mouse King a ysgrifennwyd gan E.T.A. Hoffmann. Mae'n adrodd hanes Marie, merch fach drist, y mae ei thad bedydd, Drosselmeier, yn rhoi doli Nutcracker iddi yn anrheg ar Noswyl Nadolig. Yn ei dychymyg bywiog mae'n troi'n dywysog ac mae'r hud yn cychwyn…

Y bale hwn yw’r enghraifft orau o chwedl dylwyth teg lle mae daioni a harddwch yn fuddugol.

Bydd y ffefryn tymhorol hwn yn daith fythgofiadwy yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn gyflwyniad delfrydol i gynulleidfaoedd o unrhyw oedran i fale clasurol hudol.

Profiad gwych llawn lliw i'r teulu cyfan!

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan www.russian-national-ballet.com

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Amande Concerts
  • Categori: DANCE
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Amande Concerts
  • Categori: DANCE
  • Theatr: The Lyric Carmarthen