Save the Cinema 12(A)

Yn ymddangos rhwng 14eg - 30ain Ionawr

Wedi'i hysbrydoli gan stori wir arbennig Liz Evans (Samantha Morton), menyw trin gwallt ddi-droi’n-ôl, mae Save The Cinema yn dangos sut roedd natur benderfynol tref fach yng Nghymru, a ysbrydolwyd gan swyn y sinema, wedi llwyddo i ddenu ychydig o Hollywood i'w stepen drws.

Nid tref gysglyd Caerfyrddin yng Nghymru yw'r lle cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth feddwl am ffilmiau mawr Hollywood. Ond newidiodd hyn yn 1993 pan gyhoeddodd y cyngor tref y newyddion annymunol y byddai Theatr y Lyric – sinema fawr a phoblogaidd y dref ond un a oedd mewn trafferthion ariannol – yn cael ei dymchwel er mwyn adeiladu canolfan siopa yn ei lle.  

Mae Save The Cinema yn cynnwys cast o actorion enwog gan gynnwys Samantha Morton (Fantastic Beasts and Where To Find Them), Tom Felton (Harry Potter), Jonathan Pryce (The Two Popes), Adeel Akhtar (Enola Holmes), Erin Richards (Gotham), Owain Yeoman (Emergence), Susan Wokoma (Enola Holmes), Colm Meaney (Gangs Of London), Rhod Gilbert (Have I Got News For You) a Keith Allen (Kingsman: The Golden Circle).


Pàs Covid

Bydd rhaid i bawb 18 oed a hŷn sy'n mynychu'r perfformiad hwn gyflwyno Pàs Covid y GIG.

Gallwch wneud cais am eich Pàs Covid yma llyw.cymru

Gweler ein tudalen ddiogelwch Covid yma

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal o dan reoliadau lefel rhybudd 2 gan Lywodraeth Cymru, lle gall grwpiau o hyd at chwech o bobl archebu (a chael eistedd gyda'i gilydd) gyda phob grŵp yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.


Os oes angen archebu lle i gadair olwyn, cysylltwch â'r swyddfa docynnau theatres@carmarthenshire.gov.uk    

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Film
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Film
  • Theatr: The Lyric Carmarthen