The Dublin Legends
“Alive, alive, oh!”
Yn dilyn marwolaeth sydyn Barney McKenna yn 2012, sef un o'r aelodau a sefydlodd y grŵp, a phenderfyniad John Sheahans i ymddeol, penderfynwyd y byddai cyfnod yr eiconau cerddoriaeth werin Wyddelig, sef The Dubliners, yn teithio yn dod i ben, a ganwyd The Dublin Legends.
Maen nhw'n sicr yn cyfiawnhau eu henw, gan fod gan Sean Cannon, Paul Watchorn, Gerry O'Connor a Shay Kavanagh dros 100 mlynedd o brofiad perfformio'n fyw rhyngddynt. Roedd Sean yn brif gantor gyda The Dubliners am dros 30 o'r blynyddoedd hynny! Byddant wrth gwrs yn parhau i chwarae'r holl ganeuon poblogaidd a baledi sy'n adnabyddus ledled y byd: ‘Whiskey In The Jar’, ‘Dirty Old Town’, ‘The Wild Rover’, ‘Seven Drunken Nights’ a llawer mwy. Mae'r band hwn yn meddwl busnes, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â The Dublin Legends yn y Lyric am noson sy'n llawn caneuon, straeon ac ambell beint o Guinness!
Dyddiadau Sioe
- 11 Mehefin, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: ETM
- Categori: LIVE MUSIC
- Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: ETM
- Categori: LIVE MUSIC
- Theatr: The Lyric Carmarthen
