The Mersey Beatles

Gwahoddir i bawb sy'n hoff iawn o'r Beatles gael eu rhyfeddu gan berfformiad yn talu teyrnged i'r 'Fab Four' gan hoff fand teyrnged y byd o Lerpwl.

Mae'r Mersey Beatles wedi bod yn perfformio sioeau nodedig, hynod o lwyddiannus ledled y byd ers 1999 gan ddathlu John, Paul, George a Ringo.

Mae'r band - sydd wedi gwneud mwy na 600 o ymddangosiadau mewn 10 mlynedd yng nghlwb enwog Lerpwl, Cavern Club - yn llwyddo i gyfleu ysbryd y 'Fab Four' gwreiddiol.

O'r gwisgoedd, yr offerynnau, hiwmor ffraeth y Sgows ac, wrth gwrs, sain enwog y band o Mersey, mae sioe fyw drawiadol y Mersey Beatles yn ddathliad godidog llawn caneuon gorau o'r gerddoriaeth a newidiodd y byd.

Mewn dwy awr fythgofiadwy, mae'r band yn mynd â'r gynulleidfa ar daith wych drwy ganeuon gorau'r Beatles, creadigrwydd seicedelig yr albwm Sgt Pepper a gwaith rhyfeddol y 'Fab Four' yn hwyrach yn eu gyrfa.

Felly dewch yn llu i'r sioe arbennig hon - byddwch yn siŵr o gael amser gwych!

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Rhodes Media
  • Categori: LIVE MUSIC
  • Theatr: The Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Rhodes Media
  • Categori: LIVE MUSIC
  • Theatr: The Ffwrnes Llanelli