The Snowman

Mae rhywbeth hudolus yn digwydd y Nadolig hwn…

Mae'r ffilm animeiddiedig glasurol, The Snowman, gyda cherddoriaeth gan 'The Welsh Film Orchestra' yn cyrraedd Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar 18 a 19 Rhagfyr 2021. Mark Llewellyn Evans, bariton a phersonoliaeth rhyngwladol Cymreig, fydd yn adrodd y stori ac mae'r digwyddiad hwn yn ffordd berffaith o fynd i hwyl yr ŵyl.

Yn ogystal â’r ffilm, bydd y digwyddiad yn cynnwys llawer o bethau eraill! Hyd y sioe fydd tua 70 munud a bydd y digwyddiad hwn i'r teulu yn cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth Nadolig, caneuon Nadolig, ymweliad gan Siôn Corn heb anghofio'r clasur Walking in the Air a gaiff ei ganu gan ein bachgen côr gwych.

Disgwylir gwerthu pob tocyn ar gyfer y cyfle prin iawn hwn i brofi'r ffilm glasurol gyda cherddorfa fyw.

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar y sioe 3:30yp ar ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.thesnowman.com

© Snowman Enterprises Limited. Caiff 'The Snowman' gan Raymond Briggs ei gyhoeddi gan Puffin.

Pàs Covid

Bydd rhaid i bawb 18 oed a hŷn sy'n mynychu'r perfformiad hwn gyflwyno Pàs Covid y GIG.

Gallwch wneud cais am eich Pàs Covid yma llyw.cymru

Gweler ein tudalen ddiogelwch Covid yma.

Info Cyflym

  • Cwmni: The Welsh Film Orchestra
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: The Welsh Film Orchestra
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli