The Wurlitzers - streamed show

Peidiwch â cholli'ch pen pan fyddwch yn darganfod y bydd y band bythol lawen a thalentog tu hwnt, The Wurlitzers, yn camu i'r llwyfan i'ch diddanu gyda gwylltineb roc a rôl fel rhan o'n cyfres 'Yn Fyw yn y Ffwrnes'!

Mae'r band hwn sydd â 3 aelod wedi'i ffurfio o grŵp o gerddorion medrus iawn sydd â degawdau o brofiad gyda'i gilydd. Mae The Wurlitzers wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio ar draws y wlad gan berfformio i dorfeydd mawr mewn digwyddiadau ledled y DU.

Dechreuodd The Wurlitzers fel band roc a rôl 'niche', ond ers hynny mae wedi datblygu i greu pecyn ar gyfer y cenedlaethau; o'r pedwardegau hyd at heddiw, o Nat King Cole i Bruno Mars. Ond yr hyn sy'n gwneud y band hwn yn wirioneddol unigryw yw ei egni, ac mae'r prif ganwr yn cael ei ysbrydoli gan berfformwyr mawr fel James Brown, Mick Jagger a'r diweddar Freddie Mercury. Mae'r band hwn yn eich galw i'r llawr dawnsio (neu lawr eich ystafell fyw yn yr achos hwn!) ac ni fyddwch am eistedd drwy'r nos!

Mae The Wurlitzers wedi perfformio i Catherine Zeta Jones a Michael Douglas, yn ogystal â rhannu'r llwyfan gyda pherfformwyr megis Gareth Gates, Paddy McGuinness, Ben Haenow a Only Men Aloud - rydym yn sicr y byddwch wrth eich boddau ag adloniant bywiog y band hwn!

Bydd gig The Wurlitzers yn cael ei darlledu ar ein sianelau YouTube ac AC am 7pm ddydd Sadwrn 17 Hydref a bydd ar gael i'w gwylio ar alw tan 24 Hydref. Cofrestrwch am eich tocyn am ddim drwy'r botwm 'archebu nawr' isod a bydd dolen uniongyrchol i wylio'r gig yn cael ei hanfon atoch ar e-bost.Peidiwch â cholli'ch pen pan fyddwch yn darganfod y bydd y band bythol lawen a thalentog tu hwnt, The Wurlitzers, yn camu i'r llwyfan i'ch diddanu gyda gwylltineb roc a rôl fel rhan o'n cyfres 'Yn Fyw yn y Ffwrnes'!

Mae'r band hwn sydd â 3 aelod wedi'i ffurfio o grŵp o gerddorion medrus iawn sydd â degawdau o brofiad gyda'i gilydd. Mae The Wurlitzers wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio ar draws y wlad gan berfformio i dorfeydd mawr mewn digwyddiadau ledled y DU.

Dechreuodd The Wurlitzers fel band roc a rôl 'niche', ond ers hynny mae wedi datblygu i greu pecyn ar gyfer y cenedlaethau; o'r pedwardegau hyd at heddiw, o Nat King Cole i Bruno Mars. Ond yr hyn sy'n gwneud y band hwn yn wirioneddol unigryw yw ei egni, ac mae'r prif ganwr yn cael ei ysbrydoli gan berfformwyr mawr fel James Brown, Mick Jagger a'r diweddar Freddie Mercury. Mae'r band hwn yn eich galw i'r llawr dawnsio (neu lawr eich ystafell fyw yn yr achos hwn!) ac ni fyddwch am eistedd drwy'r nos!

Mae The Wurlitzers wedi perfformio i Catherine Zeta Jones a Michael Douglas, yn ogystal â rhannu'r llwyfan gyda pherfformwyr megis Gareth Gates, Paddy McGuinness, Ben Haenow a Only Men Aloud - rydym yn sicr y byddwch wrth eich boddau ag adloniant bywiog y band hwn!

Bydd gig The Wurlitzers yn cael ei darlledu ar ein sianelau YouTube ac AC am 7pm ddydd Sadwrn 17 Hydref a bydd ar gael i'w gwylio ar alw tan 24 Hydref. Cofrestrwch am eich tocyn am ddim drwy'r botwm 'archebu nawr' isod a bydd dolen uniongyrchol i wylio'r gig yn cael ei hanfon atoch ar e-bost. 

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

Info Cyflym