Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna?

Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna?

Darlleniadau o ddramâu gan y dramodwyr lleol Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas.

 

Dyma benllanw cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2019, gyda chyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd gan y don nesaf o ddramodwyr Cymraeg.

 

Mae hwn yn gyfle unigryw i weld canlyniad 10 mis o waith creu a datblygu, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, gan rai o’r dramodwyr Cymraeg newydd mwyaf cyffrous o bob cwr o Gymru.

 

Ym mhob digwyddiad ceir darlleniad o ddramâu newydd gan ddau ddramodydd, gyda sgwrs i ddilyn gyda’r dramodwyr, y cast a’r cyfarwyddwyr.

 

I gael manylion gweddill y daith, a gwybodaeth bellach am y dramâu, ynghyd â gwybodaeth am y cast a’r cyfarwyddwyr, ewch i theatr.cymru

 

Mae hwn yn gyflwyniad Cymraeg ei iaith.

 

Mae’r Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
  • Categori: WELSH LANGUAGE DRAMA
  • Theatr: Ffwrnes

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
  • Categori: WELSH LANGUAGE DRAMA
  • Theatr: Y ffwrnes