Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau - Ysgolion | Schools

Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr 
 
Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau
Gan Mererid Hopwood 
Cerddoriaeth gan Seiriol Davies 

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU! 

Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!

Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau. 

Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies. 

Whwsh! Bant â ni!

Tocynnau | £8 & athrawon 1 mewn 10 am ddim

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Cymru
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Cymru
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen