Amdanom Ni

Rydym yn rhan o adran Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac yn rheoli tri lleoliad i’r celfyddydau perfformio yn y Sir. Ein bwriad yw dod a rhaglen eang o ddigwyddiadau celfyddydol i bobl y Sir a thu hwnt. Fel rhan o ymgyrch ein hadran, rydym yn annog pobl i ymlygu yn y celfyddydau cyfranogol, naill ai fel rhan o ddosbarth, grŵp lleol, neu dosbarth yoga.

Ein Lleoliadau

Rydym yn rheoli tri lleoliad o fewn Sir Gaerfyrddin, sef

Y Ffwrnes, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Y Lyric, Stryd y Brenin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1BD

Y Miners, Stryd y Gwynt, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3DN

Mae pob theatr yn wahanol iawn yn eu natur, mae’r Ffwrnes yn leoliad newydd a chyfoes, Y Lyric yn theatr draddiodiadol iawn, a’r Miners yn leoliad agos iawn ag agwstigs anhygoel. Mae’r rhain yn rhoi’r hyblygrwydd i ni rhaglenni ystod eang o berfformiadau i apelio at bawb, a’r rheswm y defnyddiwn y slogan ‘rhywbeth i bawb’.

Ein Bwriad

I gyfoethogi, diddanu ac i addysgu ein cymuned drwy berfformiadau eithriadol mewn lleoliadau eithriadol.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw i gyfoethogi ansawdd bywyd yn Sir Gaerfyrddin drwy:-

• Gyflwyno perfformiadau theatrig difyrrus ac arloesol sy’n adnabyddus am eu poblogrwydd a’u ansawdd artistig.
• Denu a chroesawu cynulleidfaoedd o holl segmentau amrywiol ein cymuned drwy rhaglenni aml-fasedaidd.
• Darparu adloniant sy’n maethu gwerthfawrogiad o’r celfyddydau.
• Ysbrydoli pobl ifanc i wneud y celfyddydau yn rhan actif o’u bywydau.
• Darparu cyfleoedd i ymarferwyr amatur neu broffesiynol, i fynegi eu celf ac i diddanu eu cynulleidfa.
• Annog cydweithio rhwng mudiadau sy’n arloesol, effeithiol ac yn fuddiol.