Ymwadiad

Hawlfraint

Oni bai y nodir fel arall, gan y Cyngor y mae'r hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon, gan gynnwys logos, y testun, a'r lluniau. Gellir defnyddio'r deunydd a warchodir gan hawlfraint ar yr amod nad oes newidiadau'n cael eu gwneud iddo a bod y Cyngor yn cael ei gydnabod fel y perchennog. Gwaherddir defnyddio'r deunydd er budd masnachol neu er mwyn gwneud elw, heblaw bod caniatâd ysgrifenedig ffurfiol wedi cael ei roi ymlaen llaw. 

Os rhoddir caniatâd gan y Cyngor i ddefnyddio'r deunydd ar y wefan hon y mae hawlfraint ganddo arno, nid yw'r caniatâd hwnnw'n berthnasol i unrhyw ddeunydd y mae hawl gan drydydd partïon arno, a rhaid cael caniatâd y trydydd partïon hynny i ddefnyddio deunydd o'r fath.

Ymwadiad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy, ac wedi'i diweddaru. Nid yw'r Cyngor, ei gyflenwyr, na phartïon eraill sy'n gysylltiedig â chreu a gweithredu'r wefan hon, yn atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir gan ddibyniaeth a ddeillia o ddefnyddio'r wefan hon. 

Dolenni cyswllt

Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra a allai ddigwydd yn sgil defnyddio'r gwefannau.