Dwrgi
Gyda sblish a sblash llon,
Cei ddilyn dy galon,
A deifio i ddyfroedd y stori.
 ffwr balch a bodlon,
Wrth nofio lawr yr afon
Dilyna lwybr y dwrgi.
Dilyna Dwrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, a ffeindio hud a lledrith ac
ychydig bach o ddireidi ar hyd y daith.
Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan
5 oed, ond mae croeso i bawb! Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa,
iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol.
Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu
Cymraeg neu Saesneg.
Gan y doniau tu ôl i sioeau fel Blaidd, Ned and the Whale a How to Defeat Monsters
(And Get Away With It), ymunwch â Flossy a Boo am stori arall yn llawn hwyl,
cerddoriaeth ac antur.
Ar ôl y sioe, beth am aros gyda ni am fwy o hwyl ym myd Dwrgi, wrth i ni greu
crefftau i fynd adref gyda chi ar gyfer eich anturiaethau anhygoel eich hun?
Gallwch ddisgwyl chwerthin, seinweddau meddal a chyfle i greu crefftau sy’n
addas i bob anturiaethwr bach (a’u hoedolion!)
Canllaw oedran: 0 – 5
Hyd y sioe: 45 munud
Dwyieithog Cymraeg a Saesneg
Tocynnau £6.50
- 8 Ebr, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni