Footloose: The Musical

Dewch i fwynhau Footloose the Musical! 

Byddwch yn barod i ganu, dawnsio a thorri'n rhydd, gan fod y perfformiad llwyfan ffrwydrol, Footloose the Musical, yn dod i Gaerfyrddin! Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd o 1984, mae'r cynhyrchiad bywiog hwn yn cynnwys coreograffi dynamig, caneuon bythgofiadwy a stori sy'n dathlu ysbryd ieuenctid, cariad a phŵer sefyll i fyny dros yr hyn sy'n iawn. 

Pan fydd Ren McCormack, bachgen yn ei arddegau o'r ddinas, yn symud i dref fechan Bomont, mae'n ei gael ei hun mewn ardal lle mae dawnsio wedi'i wahardd gan y gyfraith leol. Gyda chymorth ffrindiau newydd ac Ariel Moore, merch fywiog parchedig llym y dref, mae Ren yn penderfynu ei bod hi'n bryd newid pethau. Wrth iddo herio'r rheolau a chynnull y gymuned, mae'r dref yn dysgu bod bywyd i fod i gael ei fyw gydag angerdd, llawenydd a llawer o gerddoriaeth. 

Yn llawn caneuon poblogaidd, fel 'Holding Out for a Hero,' 'Let's Hear It for the Boy,' a'r brif gân eiconig, 'Footloose,' bydd y sioe gerdd hon sy'n codi'r hwyliau yn gwneud i chi glapio, dawnsio yn eich sedd a gadael y theatr gyda gwên. P'un a oeddech chi'n dwlu ar y ffilm pan oeddech chi'n ifanc neu'ch bod yn darganfod y stori am y tro cyntaf, mae Footloose the Musical yn noson drydanol o theatr y gall y teulu cyfan ei mwynhau. 

Peidiwch â cholli'ch cyfle i brofi'r sioe sy'n profi bod yn rhaid i chi dorri'n rhydd weithiau!


Eistedd ar Liniau 
Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.

Tocynnau | £15 & £13

Info Cyflym

  • Cwmni: After Forge
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: After Forge
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen