Grease | School Edition
Mae'n 1959, ac mae dosbarth hŷn Ysgol Uwchradd Rydell yn llawn cyffro. Mae'r "Burger Palace Boys" sy'n rhy cŵl i'r ysgol yn dwyn capiau olwynion ceir ac yn ymddwyn yn galed ac mae'r "Pink Ladies" yn cnoi gwm rownd y ril ac yn ysmygu fel simneiau yn eu sanau gwynion a'u trowsusau tri chwarter.
Mae breuddwyd ysgol uwchradd y 1950au ar fin chwalu'n deilchion yn y sioe gerdd hon sy'n deyrnged i ddelfrydiaeth y pumdegau ac yn ddychan ar awydd oesol disgyblion ysgol uwchradd i fynd yn groes i'r graen a chicio yn erbyn y tresi.
Wrth wraidd y stori mae'r rhamant rhwng y gangster sy'n dwlu ar geir cyflym, Danny Zuko a'r ferch newydd ddiniwed yn y dref, Sandy Dumbrowski. Cafodd y ddau garwriaeth gudd yn yr haf, ond nawr yn ôl yng nghyd-destun yr ysgol, mae pwysau cyfoedion a gangiau o ffrindiau yn gwneud eu serch ychydig yn fwy cymhleth. A all Danny gadw ei statws cŵl-dŵd a chael Sandy dawel yn gariad iddo?
Yn cynnwys caneuon poblogaidd fel Greased Lightnin', We Go Together, a Mooning, sy'n galw i gof gerddoriaeth Buddy Holly, Little Richard ac Elvis Presley a fu'n gyfeiliant i genhedlaeth gyfan. Gan redeg i ddechrau am wyth mlynedd ar Broadway, mae Grease ymhlith sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd.
Tocynnau | £15 | £10 | £40
- 28 Maw, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 28 Maw, 18:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen