Pedair

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn and Meinir Gwilym. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs a phiano. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi. 

Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf, 'Mae' na olau', ar label Sain yn 2022, albym a enillodd iddynt wobr 'Albym Cymraeg y Flwyddyn' yn 2023. Rhyddhawyd eu hail albym hirddisgwyliedig, 'Dadeni', yn 2024. Maent wedi perfformio'n helaeth hng Nghymru ac yn ddiweddar mewn gwyliau yn Ewrop a Canada. Ym mis Tachwedd 2025 byddant yn perfformio fel rhan o daith arbennig i'r Wladfa ym Mhatagonia.

Tocynnau | Cynnig Cynnar £15.50 tan diwedd y dydd 1af Rhagfyr, wedyn £17.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Pedair
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Pedair
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen