The Makings of a Murderer - The Undercover Detective

**Nodwch, mae sioe yn digwydd ym mis Medi 2026**

Ymunwch â Peter Bleksley, un o sylfaenwyr uned gweithwyr cudd Scotland Yard a chyn-seren Hunted ar Channel 4, wrth iddo ddatgelu'r gwir am yr agweddau mwyaf peryglus a chudd ar ymchwiliadau llofruddiaeth. O'r realiti dygn o ymuno â gangiau troseddol i'w brofiad brawychus ei hun o ddod yn darged ar gyfer cynllwyn i'w lofruddio, mae Peter yn rhannu straeon o'r achosion oedd â'r mwyaf yn y fantol.

Gweithiwr cudd oedd Peter am dros ddegawd, a bu'n esgus bod yn bob math o bethau, gan gynnwys deliwr cyffuriau a llofrudd proffesiynol. Rhoddodd ei fywyd cudd fynediad iddo i gorneli tywyllaf dynoliaeth, gan ddatgelu cyfrinachau a fyddai'n achub bywydau – ond ar draul ei ddiogelwch ei hun. Yn sgil cynllwyn i'w lofruddio a ddatgelwyd gan yr FBI, cafodd ei orfodi i fod yn rhan o'r rhaglen amddiffyn tystion a daeth ei yrfa fel ditectif i ben yn sydyn, gan ei adael ag atgofion iasol o lofruddwyr a'r system gyfiawnder sy'n eu herlid.

Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy o droseddau go iawn wrth i Peter Bleksley ddatgelu'r realiti dirdynnol o ddatrys llofruddiaethau a brwydro yn erbyn y byd troseddol. Yn wir, fyddwch chi erioed wedi gweld y math hwn o ymladd troseddau o'r blaen!

16+

Tocynnau | £31.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli