The Sound of Springsteen

Profwch o ewfforia roc a rôl pur Bruce Springsteen wrth i'r sioe ragorol hon ddod â'i sain eiconig yn fyw, gan fynd â chi ar daith gerddorol drwy'i gatalog caneuon anhygoel, o Greetings from Asbury Park i Ghosts yn 2020, a chyfle i fwynhau ei ganeuon mwyaf poblogaidd megis Born in the USA a Born to Run. 

O'r lleisiau gwefreiddiol i'r cynhyrchiad llwyfan anhygoel, mae pob manylyn wedi'i gynllunio'n ofalus i'ch cludo nôl i oes aur roc a rôl. P'un a ydych chi'n dwlu ar Springsteen ers bore oes neu newydd ddarganfod ei gerddoriaeth, rydych chi'n siwr o gael eich swyno gan y gitarau, y sacsoffon eiconig a'r geiriau pwerus a wnaeth ddiffinio cenedlaethau. 

Byddwch yn barod am wychder y 'The Boss' a rocio drwy'r nos gyda'r 'Springsteen experience'!

Tocynnau | £30.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Hicklin Productions Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Hicklin Productions Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen