The Wrong Houses

Wrth ddathlu 10 mlynedd mae Theatr Gymunedol Rhydaman nôl gyda chomedi ofnadwy o ddigri arall eleni! 

Pan ddaw'r teulu Hornchurch i wybod bod eu troseddau'n mynd i ddenu rhai ymwelwyr digroeso iawn, maen nhw'n meddwl am gynllun i waredu'r A o rif eu tŷ sef 127A, a'i roi ar dŷ eu cymdogion yn rhif 127. Mae'r twyll hwn yn creu anhrefn a dryswch, wrth i'r teulu Thornchurch drws nesaf - sy'n dathlu eu pen-blwydd priodas yn 40 oed yn ddigon diniwed - ddechrau cael ymwelwyr ac anrhegion rhyfedd iawn. Maen nhw'n derbyn pecynnau anhysbys, paentiad wedi'i ddwyn, fâs, gemwaith gwerthfawr a hanner miliwn o bunnoedd mewn arian parod! Cyn bo hir mae gyda ni ddau deulu o droseddwyr, yr heddlu, a theulu diniwed (sy'n dathlu digwyddiad hapus), yn rhedeg o gwmpas yn ceisio dod â threfn i'r holl helbul! 

Comedi newydd ddoniol, gyflym gan y tîm roddodd i chi Last Tango In Ammanford, The Top Table, The Near Mrs, Where There's A Will There's A Way a Disorganized Crime!

Cynhyrchiad amatur

Addas i'r oedran 12+

Tocynnau £10 | £8

Info Cyflym

  • Cwmni: Ammanford Community Theatre (ACT)
  • Categori: Comedy
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford

Info Cyflym

  • Cwmni: Ammanford Community Theatre (ACT)
  • Categori: Comedy
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford