Cyfleoedd
Cynllun Prentisiaethau Technegol
Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am ymgeisydd addas i gymryd rhan yn y Cynllun Prentisiaethau Technegol sy'n cael ei weithredu ledled Cymru gan Ganolfan Mileniwm Cymru.
Bydd prentisiaid yn derbyn blwyddyn o gyflogaeth llawn amser, â thâl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli gyda Theatrau Sir Gâr ond yn cael ei gyflogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli.
Oriau: 35 awr yr wythnos gan gynnwys diwrnodau hyfforddi ac asesu
Cyflog: £14,560 y flwyddyn (dan gontract Canolfan Mileniwm Cymru)
Lleoliad: Wedi'i leoli yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli (gyda gofyniad i weithio ar draws pob un o'r tri lleoliad a ledled y sir yn ôl yr angen)
Dyddiad cychwyn y brentisiaeth: 5 Hydref 2026, cytundeb Tymor Penodol am 12 mis
Dyddiad cau: Dydd Sul 16 Awst 2026
Cynhelir y cyfweliadau: Dydd Iau 27 Awst 2026 yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth yma Pecyn Gwybodaeth Prentis Technegol
Dilynwch y ddolen hon i lenwi'r ffurflen gais: https://forms.gle/vchFQMSf9tKa2T8u7