Telerau ac Amodau Gwerthu

Wrth brynu neu dderbyn tocyn i berfformiad yn unrhyw un o dri lleoliad Theatrau Sir Gâr sy'n cynnwys Theatr y Ffwrnes yn Llanelli, Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman, mae'r cwsmer yn derbyn y telerau ac amodau gwerthu canlynol:

Mae Theatrau Sir Gâr yn gyfleuster a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a chyfeirir ato fel "Theatrau Sir Gâr" o hyn ymlaen.

Tocynnau ac Archebu

Mae'n rhaid i bob aelod o'r gynulleidfa gael tocyn dilys ar gyfer y dyddiad a'r amser y mae'n mynychu'r theatr ac yn gallu dangos prawf adnabod perthnasol pan ofynnir amdano fel tystiolaeth am docyn pris gostyngol neu gonsesiynol.

Cyfrifoldeb yr un sy'n archebu yw sicrhau bod yr holl docynnau a roddir iddynt yn gywir.

Cyfrifoldeb yr un sy'n archebu yw sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir wrth archebu yn gywir.

Nid yw Theatrau Sir Gâr yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am docynnau sydd wedi'u dwyn, eu colli neu eu dinistrio.  

Ni chaniateir i unrhyw docynnau gael eu hail-werthu am unrhyw reswm gan unrhyw safle arall heb law am Swyddfa Docynnau Theatrau Sir Gâr neu unrhyw un o'i hasiantiaid tocynnau awdurdodedig (mae safleoedd anawdurdodedig yn cynnwys gwefannau megis safleoedd arwerthu). Bydd methu â chydymffurfio â hyn yn golygu y bydd y tocyn yn annilys.

Er bod Theatrau Sir Gâr yn cymryd cyfrifoldeb am docynnau a brynir yn uniongyrchol drwy Swyddfa Docynnau Theatrau Sir Gâr, ni fydd gwefan Theatrau Sir Gâr ac asiantiaid tocynnau awdurdodedig yn gyfrifol am docynnau a werthwyd drwy ddulliau anawdurdodedig.

Ni fydd y rhai sy'n archebu tocynnau a brynwyd drwy werthwr anawdurdodedig o dan unrhyw amgylchiadau yn gallu cyfnewid tocyn neu dderbyn ad-daliad gan Theatrau Sir Gâr.

Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i osod cyfyngiadau ar nifer y tocynnau y gellir eu harchebu drwy'r Swyddfa Docynnau neu ar-lein.

Mae Theatrau Sir Gâr yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd Theatrau Sir Gâr yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn datgelu eich manylion personol yn unol â'n polisi preifatrwydd y gellir ei gyrchu o wefan Theatrau Sir Gâr.    

Prisiau a Thaliadau

Pris y tocyn fydd y pris a osodir ar yr adeg y derbynnir eich archeb. Mae'r holl brisiau a hysbysebir yn cynnwys unrhyw drethi perthnasol a ffioedd archebu tocynnau (lle bo'n berthnasol) ond heb gynnwys unrhyw ffi o ran trafodion, casglu neu ddosbarthu.

Ni fydd unrhyw archeb yn cael ei derbyn hyd nes bod Theatrau Sir Gâr wedi derbyn taliad llawn mewn arian sydd wedi ei glirio.

Mae'r holl docynnau consesiwn a gostyngiad yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael, efallai y byddant yn gyfyngedig i lefelau pris penodol a pherfformiadau a gellid eu tynnu yn ôl gan Theatrau Sir Gâr heb rybudd.

Dim ond un consesiwn neu ostyngiad sydd ar gael fesul tocyn.

Aml-Brynu

Mae'r cynnig aml-brynu yn golygu os ydych yn archebu 3 neu ragor o sioeau cymwys (rheiny sy'n cael eu hysbysebu gyda'r logo aml-brynu melyn), byddwch yn cael 3 sioe am £30, 4 sioe am £38 a 5 sioe am £45 a bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at eich basged. Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar docynnau aml-brynu yn unig ac yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael.

Tempo

Gellir defnyddio credydau amser Tempo i brynu tocynnau ar gyfer rhai sioeau cymwys sy'n dangos y logo Tempo. Mae angen dau gredyd Tempo fesul tocyn. Gweler gwefan Tempo ar gyfer y manylion llawn https://www.wearetempo.org/  

Cyfnewid, Canslo ac Ad-daliadau

Mae tocynnau wedi'u heithrio rhag hawliau canslo statudol. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gennych ganslo eich tocynnau ar ôl prynu.

Ni ellir ad-dalu tocynnau oni bai bod perfformiad yn cael ei ganslo neu'n dod i ben cyn bod hanner y perfformiad yn cael ei ddangos.

Os bydd perfformiad yn cael ei ganslo neu'n neu'n dod i ben cyn bod hanner y perfformiad yn cael ei ddangos, cynigir y cyfle yn gyntaf i'r rhai sydd wedi archebu gyfnewid tocynnau am berfformiad arall; os nad oes tocynnau eraill, bydd Theatrau Sir Gâr yn ad-dalu i chi werth enwol y tocynnau a brynwyd (ac eithrio unrhyw daliadau dosbarthu).

Os na allwch fynd i berfformiad am ryw reswm, ni fydd ad-daliad ar gael. Gallwn gynnig yr opsiwn i chi gyfnewid eich tocynnau am berfformiad arall, neu gynnig credyd hyd at werth eich tocynnau. Mae ffi weinyddol o £1 y tocyn am brosesu'r ddau opsiwn hyn.

Rhaid rhoi gwybod i'r swyddfa docynnau erbyn 2pm (10:30yb ar gyfer sioeau prynhawn) ar ddiwrnod y perfformiad os nad ydych yn gallu dod a'ch bod yn dymuno gofyn am gredyd neu gyfnewid eich tocynnau. Bydd ceisiadau ar ôl yr amser hwn yn cael eu gwrthod.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid cyfeiriad neu fanylion cyswllt adeg archebu. Bydd ad-daliadau yn cael eu talu i'r person a brynodd y tocynnau yn unig a lle bo'n bosibl drwy'r dull talu gwreiddiol.

Mae diogelwch ad-daliad TicketPlan ar gael ar gyfer eich archeb. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dewis yr opsiwn hwn. Ni ellir ad-dalu eich tocynnau a bydd hyn yn eich diogelu rhag cansladau o ganlyniad i ddamweiniau a salwch annisgwyl. Mae'r manylion llawn wedi'u cynnwys yn Nhelerau ac Amodau TicketPlan, ac rydym yn eich cynghori i'w darllen a'u cadw.

Efallai y bydd Theatrau Sir Gâr yn cytuno i ailwerthu tocynnau nad ydynt yn cael eu defnyddio a brynwyd yn uniongyrchol o'r theatr yn flaenorol, ar ran yr un sydd wedi archebu, os yw'r holl docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer y cynhyrchiad. Os llwyddir i werthu eich tocynnau, bydd Theatrau Sir Gâr yn eich ad-dalu drwy daleb credyd am werth enwol y tocynnau a brynwyd (ac eithrio unrhyw daliadau dosbarthu), a didynnir ffi weinyddol fesul tocyn. Bydd Theatrau Sir Gâr yn gwerthu ei holl docynnau ei hun cyn y bydd yn cynnig ailwerthu tocynnau a ddychwelir ac ni all sicrhau y bydd yn llwyddo i ailwerthu unrhyw docynnau a ddychwelir. Cyfrifoldeb yr un sy'n archebu yw gwirio â'r Swyddfa Docynnau bod y tocyn wedi cael ei ailwerthu.

Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i ganslo perfformiad ar fyr rybudd oherwydd salwch un o aelodau'r cast. Am y rheswm hwn, sicrhewch fod gan y Swyddfa Docynnau eich manylion cyswllt cywir.

Ni fydd unrhyw gostau teithio neu dreuliau eraill fel rhan o'ch ymweliad â Theatrau Sir Gâr yn cael eu had-dalu.

Mae'n rhaid ad-dalu tocynnau a brynwyd gan asiantau trydydd parti yn y man prynu gwreiddiol. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld a yw digwyddiad wedi cael ei ganslo neu ei aildrefnu.

Cystadlaethau

Ni ellir trosglwyddo tocynnau a dderbynnir fel gwobrau cystadleuaeth. Ni chynigir perfformiadau na chynyrchiadau eraill. Ni chynigir arian parod yn lle'r tocyn. Dylai gwobrau cael eu defnyddio gan enillydd y gystadleuaeth a byddant ar gael i'w casglu yn y Swyddfa Docynnau ar ddiwrnod y digwyddiad oni nodir yn wahanol. Efallai y bydd telerau ac amodau ychwanegol ar gyfer cystadlaethau a gynhelir gan gwmnïau allanol.

Tocynnau rhodd

Gellir defnyddio tocynnau rhodd fel taliad llawn neu daliad rhannol am docynnau i sioeau yn Theatrau Sir Gâr. Os na ddefnyddir gwerth llawn y tocyn rhodd mewn un trafodyn, bydd credyd am y swm sy'n weddill yn parhau'n ddilys tan ddyddiad dod i ben y tocyn.

Ni chynigir arian parod na thocyn rhodd arall yn ei le. Mae'n rhaid defnyddio'r tocynnau rhodd cyn y dyddiad dod i ben, sef dwy flynedd o'r dyddiad prynu.

Sylwch nad oes modd defnyddio tocynnau rhodd yng nghaffis a barau Theatrau Sir Gâr.

Gostyngiadau

Gellir cael gostyngiadau ar docynnau pris llawn yn unig.

Cynigir pob gostyngiad yn amodol ar yr hyn sydd ar gael a gellir tynnu'r cynnig ar benderfyniad rheolwr heb roi rhybudd ymlaen llaw a gall fod yn gyfyngedig i berfformiadau penodol a lefelau prisiau.

Ni chynigir ad-daliadau ar gyfer tocynnau wedi'u harchebu ymlaen llaw pan fydd cynigion arbennig yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Mae pob cynnig arbennig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael a dim ond un gostyngiad y gellir ei ddefnyddio. Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i dynnu yn ôl neu newid telerau unrhyw gynigion heb rybudd. 

Rhestr aros

Mae system rhestr aros bellach ar waith ar gyfer digwyddiadau lle gwerthir pob tocyn. Rhowch eich enw, eich manylion cyswllt a nifer y tocynnau y mae eu hangen arnoch a rhoddir gwybod i chi os bydd tocynnau ar gael, ac nid oes rheidrwydd arnoch i brynu ar yr adeg hon. Nid yw cyflwyno cais ar gyfer y rhestr aros yn gwarantu y bydd tocynnau ar gael.

Tocynnau ar gadw

Gellir rhoi tocynnau ar gadw am un mis calendr, beth bynnag yw maint grŵp. Os na chaiff y taliad ei wneud erbyn diwedd y cyfnod cadw, bydd tocynnau'n cael eu rhyddhau i'w gwerthu'n gyffredinol.

Golwg gyfyngedig

Os byddwch yn prynu tocyn sy'n cynnig golwg gyfyngedig, rhoddir gwybod i chi am y cyfyngiad pan fyddwch yn archebu. Os bydd cyfyngiad yn digwydd oherwydd y perfformiad/llwyfannau penodol byddwn yn ceisio rhoi gwybod i gwsmeriaid ac yn ceisio rhoi seddi gwahanol os yw'n bosibl.

Eich ymweliad

Gellir gofyn i bobl sy'n hwyr (h.y. y rheiny sy'n ceisio mynd i mewn i'r awditoriwm ar ôl yr amser dechrau a drefnwyd ar gyfer y perfformiad) aros y tu allan tan fod adeg yn y perfformiad sy'n addas iddynt fynd i mewn i'r awditoriwm. Os nad oes adeg addas neu os bydd mynd i mewn yn tarfu, gellir gwrthod mynediad i rai sy'n hwyr. Ni chynigir ad-daliad nag opsiwn i gyfnewid tocyn.

Nid oes sicrwydd y bydd hwyrddyfodiaid sy'n cael mynediad yn eistedd yn y sedd a brynwyd ganddynt ac efallai y gofynnir iddynt eistedd mewn sedd arall i osgoi tarfu.

Efallai y gofynnir i aelodau o'r gynulleidfa sy'n gadael yr awditoriwm ar ôl i'r perfformiad ddechrau aros y tu allan tan fod adeg yn y perfformiad sy'n addas i roi mynediad iddynt. Os nad oes adeg addas neu y bydd mynd i mewn yn tarfu, gellir gwrthod rhoi mynediad. Ni chynigir ad-daliad nag opsiwn i gyfnewid tocyn.

Mae'n rhaid diffodd ffonau symudol, galwyr a larymau wats cyn mynd i mewn i'r awditoriwm. Gall defnyddio ffonau symudol a galwyr, hyd yn oed pan ydynt yn dawel, darfu ar aelodau eraill y gynulleidfa a'r perfformwyr ar y llwyfan.

Mae gwaharddiad llym ar recordio ffilm, sain neu dynnu lluniau yn ystod perfformiad, oni bai bod yr artist yn gwahodd y gynulleidfa i wneud hyn yn benodol, neu fod caniatâd ysgrifenedig wedi cael ei roi gan Adran Farchnata Theatrau Sir Gâr. Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i ddileu neu ddinistrio unrhyw ddeunydd a recordiwyd heb ganiatâd.

Gall Theatrau Sir Gâr ffilmio, recordio sain neu dynnu lluniau yn y lleoliad neu o'i amgylch. Drwy brynu tocynnau neu ymweld â'r bar, rydych chi a'ch grŵp yn cytuno i gael eich ffilmio, eich recordio neu i luniau gael eu tynnu ohonoch.

Wrth archebu, mae'r un sy'n archebu yn cytuno â'n telerau ac amodau ar ran holl aelodau ei grŵp.

Mae'n rhaid i blant dan 18 mis brynu tocyn i eistedd ar lin oedolyn, sydd wedi'i gynnwys ym mhris tocyn safonol, ac yn amodol ar yr hyn sydd ar gael. Mae'n rhaid i blant dros 18 mis oed brynu tocyn dilys ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer ei gynorthwyydd personol neu ei ofalwr wrth fynd i weld perfformiad yn unrhyw un o'n theatrau. Gweler gwefan Hynt am y Telerau ac Amodau llawn. https://www.hynt.co.uk/cy/ymunwch/telerau-ac-amodau/

Mae gan Theatrau Sir Gâr hyn a hyn o gyfleusterau ystafell gotiau yn y Ffwrnes a'r Lyric, ond nid oes unrhyw gyfleusterau storio ar gyfer beiciau, cadeiriau gwthio na bagiau.

Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i wneud y canlynol:

  • Gwneud unrhyw newidiadau i'r rhaglen neu'r cast a hysbysebwyd sy'n angenrheidiol oherwydd achosion na ellir eu hosgoi.
  • Gofyn i unrhyw ddeiliad tocyn adael y theatr a chymryd camau priodol i orfodi'r hawl hwn.
  • Gwrthod mynediad neu daflu allan unrhyw berson y credir sy'n debygol o beri niwsans, bygythiad neu darfu ar aelodau eraill y gynulleidfa, y lleoliad neu ei weithwyr.
  • Gwrthod mynediad i unrhyw un y mae ei docynnau wedi'u prynu drwy asiantaeth anawdurdodedig neu drydydd parti.
  • Newid lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu berfformiadau a newid y trefniadau eistedd o seddi cadw i seddi heb eu cadw heb roi gwybod i'r cwsmer.
  • Os gwrthodir mynediad i unigolyn neu ei fod yn cael ei daflu allan am unrhyw reswm, ni chynigir ad-daliad na chyfle i gyfnewid tocyn.

Iechyd a Diogelwch

Bydd ymddygiad ymosodol, gwrthgymdeithasol neu fygythiol o unrhyw fath tuag at aelod arall o'r gynulleidfa neu'r staff yn golygu y bydd yr unigolyn yn cael ei hebrwng o'r safle a gall arwain at gamau cyfreithiol.

Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i chwilio bagiau at ddibenion diogelwch.

Ni chaniateir mynd â gwydrau, camerâu ac offer recordio i'r awditoriwm. Gellir cario diodydd mewn cwpanau plastig a ddarperir.

Dim ond diodydd alcoholig sy'n cael eu prynu ym mar y theatr y caniateir yn yr awditoriwm. Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw aelod o'r gynulleidfa sy'n meddu ar ddiodydd alcoholig neu sy'n yfed diodydd alcoholig na phrynwyd ym mar y theatr. Mae Theatrau Sir Gâr yn cadw'r hawl i wrthod gwerthu alcohol.

Ni chaniateir bwyd poeth yn yr awditoriwm. Caniateir bwyd a diod a brynwyd o far y theatr neu'r caffi yn unig yn yr awditoriwm. Cofiwch y gall unrhyw fwyd/losin neu bapur lapio swnllyd amharu ar y perfformwyr ac aelodau eraill y gynulleidfa.

Wrth brynu tocynnau ar gyfer sioe neu ddigwyddiad sy'n cynnig bwyd neu ddiod fel rhan o'r pecyn, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau am unrhyw alergeddau wrth archebu.

Weithiau, defnyddir goleuadau strôb, taniad gwn ac effeithiau mwg mewn cynyrchiadau; mae manylion ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar ôl y perfformiad cyntaf.

Cyfrifoldeb y perchennog yw ei holl eiddo personol pan fydd yn y safle.

Mae rheolwyr yn cadw'r hawl i gynnal chwiliadau diogelwch a chymryd unrhyw eitemau na chaniateir oddi wrth rywun neu eitemau y gellir ystyried eu bod yn peri perygl neu'n tarfu ar y digwyddiad neu aelodau eraill y gynulleidfa.

Mae gan bob lleoliad bolisi dim ysmygu yn unol â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys sigarennau electronig.

Mae deiliaid tocynnau yn rhoi caniatâd i gael eu dangos fel aelodau'r gynulleidfa mewn unrhyw recordiadau swyddogol, ffotograffau a recordiadau sain, h.y. os yw perfformiad i gael ei ddarlledu ar deledu yn ddiweddarach.

Mewn digwyddiadau lle byddwch yn eistedd, gofynnir i gwsmeriaid aros yn eu seddau trwy gydol y perfformiad i alluogi pob cwsmer i weld y llwyfan a'r artistiaid sy'n perfformio'n glir. Sylwch, os eir yn groes i'r dymuniad hwn a bod hyn yn arwain at gwynion gan gwsmeriaid oherwydd yr effeithir ar eu profiadau o ganlyniad, bydd tîm y lleoliad sydd ar ddyletswydd yn gofyn i chi eistedd neu gellir eich symud i rywle arall yn yr awditoriwm. Ni chynigir unrhyw ad-daliadau neu iawndaliadau dan yr amgylchiadau hyn.