A Child's Christmas

Lighthouse Theatre yn cyflwyno:  

A Child's Christmas gan Dylan Thomas a Richard Burton 

‘Snow grew overnight on the roofs of the houses’ - A Child's Christmas in Wales gan Dylan Thomas 

‘There were very few white Christmases in my part of Wales’…. - A Christmas Story gan Richard Burton 

Mae Dylan Thomas a Richard Burton yn ddau o bobl enwocaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Maen nhw wedi llunio straeon am y Nadolig yng Nghymru sydd cystal â straeon byrion Charles Dickens am y Nadolig yn Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I raddau, gellir dadlau bod Thomas a Burton wedi bod yn gyfrifol am lunio ein syniad o'r Nadolig, yn union fel y helpodd Dickens i greu'r traddodiadau Nadolig rydyn ni'n dal i fwynhau heddiw. 

Yn bwysicaf oll, roedd Burton a Thomas yn actorion, ac mae eu cariad at eiriau yn amlwg yn y ddwy stori fer a chalonogol hyn. 

Wedi'i ddisgrifio gan y South Wales Evening Post fel "... a joy...", mae'r 'sioe Nadolig Cymreig' hon wedi'i pherfformio gan ddau actor wedi bod yn hynod boblogaidd. 

Ymunwch â Lighthouse wrth iddyn nhw ddathlu hwyl yr ŵyl.... 

Adborth y gynulleidfa: 
" Mae'r Nadolig wedi dechrau'n bendant nawr." 
"Dau berfformiad hudolus. Prynhawn gwych yn mwynhau hwyl yr ŵyl yn y theatr."

Tocynnau: £11 | £9

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni