A Night with the Stars

Mae Loud Applause yn cyflwyno:

‘A Night with the Stars’

Dathliad poblogaidd o dalentau cerddorol Cymru

Eleni mae Côr Meibion enwog Treorci yn dychwelyd i 'A Night with the Stars'. Mae'r côr hwn mor boblogaidd ag erioed, sy'n golygu ei fod yn dal i berfformio yn rhai o leoliadau cyngerdd mwyaf mawreddog y DU.

Mae'r noson hefyd yn cynnwys unawdwyr dawnus LARS (Loud Applause Rising Stars), sef grŵp rhyfeddol o gantorion ifanc talentog o bob rhan o dde Cymru, rhwng 14 a 22 oed, y mae pob un ohonyn nhw’n ymroddedig i feithrin gyrfa ym myd cerddoriaeth. Ymhlith aelodau LARS y bydd sawl llais newydd a ymunodd â LARS ar ddechrau'r flwyddyn hon.

Hefyd yn rhan o'r arlwy hon, rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed sain hyfryd Côr Ysgol Dewi Sant.

Samuel Wyn Morris, seren y West End ac aelod cyntaf o LARS fydd yn cyflwyno'r noson. Fel cyflwynydd, mae Samuel Wyn Morris wedi swyno cynulleidfaoedd yn y DU a thu hwnt gyda'i arddull unigryw a diddorol.

Mae'r cyngerdd gala hwn, sy'n cael ei gynnal am y deuddegfed tro eleni, yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda'i berfformiadau cerddorol amrywiol.

Info Cyflym

  • Cwmni: Loud Applause Productions
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Loud Applause Productions
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli