An Evening of Burlesque Cabaret

Noson Ogoneddus o glamor, chwerthin a hwyl. 

Mae sioe fwrlésg hynaf y DU yn ôl ar daith o amgylch y wlad, gyda thro newydd cyffrous ar gyfer 2026! Yn cyflwyno An Evening of Burlesque Cabaret— dathliad arbennig o gabaret, bwrlésg, ac adloniant o'r radd flaenaf. Mae'r sioe amrywiaeth hon yn cyfuno cabaret, comedi, cerddoriaeth, a bwrlésg mewn strafagansa ysblennydd o glits a glamor. 

Dyma ichi noson o berfformiadau syfrdanol lle bydd merched sioe trawiadol, artistiaid cabaret arbenigol, a sêr y llwyfan a'r sgrin. Gallwch ddisgwyl hwyl, plu a gwisgoedd gwych wrth i ni arddangos y detholiad gorau o artistiaid arbenigol, comedïwyr a dawnswragedd dawnus. Gyda'i chyfuniad o swyn y cabaret ac atyniad bwrlésg, mae'r sioe wefreiddiol hon yn brofiad unigryw a deniadol sy'n ailddiffinio amrywiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif. 

Mae Bwrlésg wedi swyno cynulleidfaoedd ers canrifoedd, ac mae An Evening of Burlesque Cabaret yn rhoi i ni'r gorau oll o fwrlésg a cabaret cyfoes. Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl a digonedd o glitr, glamor ac eiliadau cofiadwy. 

Mae'n amser coctels a cabaret - mae noson i'w chofio'n eich disgwyl. Peidiwch â cholli'r cyfaredd!


Tocynnau | £33.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen