Snow White

Datgelu cast pantomeim Nadolig Theatr y Lyric: Snow White yn dod i Gaerfyrddin

Mae hud pantomeim yn dychwelyd i Gaerfyrddin y Nadolig hwn wrth i Theatr y Lyric ddatgelu cast ei sioe Nadoligaidd ar gyfer 2025 – y stori dylwyth teg enwog Snow White.

Wedi'i chynhyrchu am y drydedd flwyddyn yn olynol gan Theatrau Sir Gâr, mewn partneriaeth â'r cynhyrchydd pantomeim blaenllaw yn y DU, Imagine Theatre, mae'r sioe eleni yn saff o wneud i chi chwerthin a bydd digon o gerddoriaeth a sglein Nadoligaidd i'r teulu cyfan.

Bydd Steve Elias, yr actor, y cyfarwyddwr a'r coreograffydd o Gaerfyrddin – yn camu i'r llwyfan unwaith yn rhagor yn dilyn ei lwyddiant ysgubol yn actio'r Dame yn Beauty and the Beast y llynedd. Mae Steve yn berfformiwr profiadol iawn, ac ymhlith ei uchafbwyntiau yw bod yn rhan o'r cwmni gwreiddiol ar gyfer Billy Elliot ac roedd yn gyfrifol am greu'r cymeriad Mr Braithwaite. Hefyd, rhannodd lwyfan â Patrick Swayze yn y cynhyrchiad arobryn Guys and Dolls yn Theatr Piccadilly, Llundain. Mae Steve yn falch iawn o ddychwelyd adref i ddiddanu cynulleidfaoedd eto y Nadolig hwn.

Bydd y podledwr a'r digrifwr stand-yp o Gaerfyrddin, Elis James, yn gwneud ymddangosiad rhithwir arbennig fel The Spirit of the Mirror. Er mai Snow White yw ei bantomeim gyntaf, mae gan Theatr y Lyric le arbennig yn ei galon - mae wedi perfformio yno sawl gwaith, gan gynnwys ffilmio rhaglen arbennig i S4C ar gyfer Nadolig y llynedd. Gall cefnogwyr hefyd edrych ymlaen at ei weld yng ngwanwyn 2026, pan fydd yn dod â'i bodlediad poblogaidd, The Socially Distanced Sports Bar, i lwyfan y Lyric.

Yr actores o Ben-y-bont ar Ogwr, Ceri-Anne Thomas, a swynodd gynulleidfaoedd fel Belle yn Beauty and the Beast yn y Lyric y llynedd ac ym Mhafiliwn Porthcawl yn 2023, fydd yn perfformio'r brif ran, Snow White. Mae Ceri-Anne wrth ei bodd yn dychwelyd i'r Lyric eleni i ddod â rhywfaint o hud Nadoligaidd i gynulleidfaoedd Caerfyrddin.

Mae Alexandra George, a anwyd yng Nghaerfyrddin, yn newid o actio'r cymeriad cyfriniol Enchantress y llynedd i fod yn actio'r Frenhines Ddrwg iawn iawn, Evilyn. Byddwch yn barod am lais pwerus, dawn ddramatig, a digon o hwyl fel y dihiryn. Bellach yn byw yn Llundain, mae Alexandra yn wreiddiol o Gaerfyrddin a mynychodd lawer o'r grwpiau dramatig amatur lleol yn ei hieuenctid, gan gynnwys Theatr Ieuenctid Merlin ac Opera Ieuenctid Caerfyrddin. Yn fwy diweddar, mae wedi chwarae'r dihiryn ar gyfer Imagine Theatre, rôl yr Unawdydd yn The Thursford Christmas Spectacular ac maen'n parhau â'i gwaith o gyflwyno rhaglenni i blant.

Eleni, bydd wyneb newydd yn ymddangos yn y pantomeim, Nathan Guy a fydd yn chwarae rôl Jingles, y digrifwr panto anffodus. Mae Nathan yn hen law ar berfformio mewn pantomeim, ac yntau wedi ymddangos yn pantomeimiau Imagine Theatre dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae Nathan newydd orffen taith o Bing's Birthday Party eleni ac mae hefyd wedi ymddangos mewn llawer o sioeau teithiol eraill i deuluoedd gan gynnwys James and the Giant Peach ac Alice and Wonderland.

Yn ymddangos fel y tywysog golygus fydd Abe Armitage. Yn ddiweddar, graddiodd Abe o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae ar hyn o bryd yn teithio ledled Prydain gyda'r cynhyrchiad newydd o The Lightning Thief Musical gan Percy Jackson fel rhan o'r ensemble a dirprwy actor ar gyfer Percy.

Cyfleoedd i Dalentau Ifanc Lleol

Cynhelir clyweliadau i'r Ensemble Iau ddydd Sadwrn 4 Hydref yn Theatr y Lyric. Yn agored i unrhyw un rhwng 9 a 16 oed (blynyddoedd ysgol 4–11), mae hwn yn gyfle gwych i berfformwyr ifanc lleol ymuno â chynhyrchiad proffesiynol. Mae ffurflenni cais bellach ar gael ar wefan Theatrau Sir Gâr.

Perfformiadau Hygyrch

Bydd y perfformiadau canlynol yn cael eu cynnal:

  • Perfformiadau Hamddenol: 17 Rhagfyr am 6pm a 19 Rhagfyr am 10am
  • Perfformiad gydag Iaith Arwyddion Prydain: 14 Rhagfyr am 6pm
  • Perfformiadau i Ysgolion: 16 – 18 Rhagfyr, 10am

Gyda thocynnau eisoes yn gwerthu'n gyflym, mae teuluoedd yn cael eu hannog i archebu'n gynnar i sicrhau eu seddi. Mae'r prisiau'n dechrau o £14.50 yn unig, ac mae gostyngiadau ar gael i grwpiau ac ysgolion. I archebu, ewch i https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/sioeau/snow-white, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510, neu e-bostiwch theatres@sirgar.gov.uk i archebu ar gyfer grŵp.

Manylion y Digwyddiad

Sioe: Snow White
Dyddiadau: 11–29 Rhagfyr 2025
Lleoliad: Theatr y Lyric, Heol y Brenin, Caerfyrddin
Tocynnau: 0345 226 3510 | www.theatrausirgar.co.uk

Bydd Snow White yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin rhwng 11 Rhagfyr a 29 Rhagfyr. I gael gwybodaeth am docynnau ac i archebu, ewch i https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/sioeau/snow-white neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 0345 226 3510.

Ar gyfer ymholiadau'r wasg neu gyfweliadau gyda'r cast a'r tîm cynhyrchu, cysylltwch â:
Kate Boucher, klboucher@sirgar.gov.uk

Steve Elias as Dame Dolly Mixture
Ceri-Anne Thomas as Snow White
Alexandra George as Evil Queen Evilyn
Nathan Guy as Jingles
Abe Armitage as Prince Michael