Ben Miller: Volcano
Beth sy'n digwydd pan fydd digrifwr yn cerdded i mewn i losgfynydd?
Yn 2023, Ben Miller oedd yr artist preswyl ym Mharc Cenedlaethol Llosgfynyddoedd Hawai'i, y digrifwr cyntaf erioed a gafodd ei ddewis. Mae'n debyg bod hwn yn syniad ofnadwy ar eu rhan!
Dewch i wylio'r sioe hon, lle bydd Ben Miller, y gwyddonydd sydd hefyd yn ddigrifwr, yn archwilio folcanoleg, entomoleg, hanes Hawaii, cathod, cwcis a mwy. Ac ydy, mae'r llun hwnnw'n un go iawn. Mae Ben wedi gwneud i bobl chwerthin o flaen llyn o lafa llosg a dyw e ddim yn eich ofni chi.
Ben Miller
Mae Ben Miller yn wyddonydd ac yn ddigrifwr o Efrog Newydd sydd wedi bod yn gweithio am yr 8 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi perfformio ym mhob un o'r clybiau gorau yn y ddinas fel Broadway Comedy Club, Carolines, a The Stand. Roedd Ben unwaith yn cael ei ystyried yn ddigrifwr dychanol gorau Efrog Newydd. Mae ganddo radd mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, mae wedi gweithio ar fws gwyddoniaeth, wedi argraffu cwcis yn 3D ac wedi atal sawl ffeit tra ar y llwyfan. Yn 2022 gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer sioe gyntaf Ben Miller, Stand-Up Science, yng Ngŵyl Fringe Caeredin ac mae bellach yn teithio ar draws y byd.
Argymhellir y sioe hon ar gyfer pobl dros 16 oed.
Adolygiadau ar gyfer y sioe:
**** - Winnipeg Free Press
**** - The Mumble
**** - Bookmarks and Stages
“Ben Miller’s nerdy and vivid comic mind erupts in this hour-long set!” - Winnipeg Free Press
“Ben does a fantastic job of getting the facts across & making us laugh at the same time! A real & rare treat.” - The Mumble
Tocynnau £15.50
- 13 Medi, 20:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Ben Miller
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford

Info Cyflym
- Cwmni: Ben Miller
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford