Deian a Loli - Lyric
Y Ribidirew Olaf
Da ni gyd yn gorfod tyfu i fyny rhywbryd. Neu ydan ni?
Mae hi’n ddiwrnod cyntaf Deian a Loli yn yr ysgol fawr!
Mae Deian wedi cyffroi’n lân ac ar ei draed ers cyn cŵn Caer - ond dydi Loli ddim isio mynd.
Ar ben bob dim, mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu dwyn nhw - er fod Mam, Dad a Deian yn dadlau nad ydi ffrindiau dychmygol yn bod.
Mae Deian yn sylweddoli nad oes ganddo fawr o ddewis ond ymuno efo Loli i ddweud y gair hud, a rhewi eu rhieni - gan fynd ar drywydd y goriadau coll ar antur fwyaf eu bywydau.
A fyddan nhw’n llwyddo i ddod o hyd i’w ffrind dychmygol cyn iddo fo ddiflannu am byth? A oes peryg iddyn nhw golli eu pwerau hudol wrth dyfu i fyny?
Dewch i brofi sioe theatrig gyntaf Deian a Loli wrth i’r efeilliaid direidus deithio i ben draw dychmyg a thu hwnt.
Sioe Gymraeg
BSL a Sain Ddisgrifiad
Bydd y perfformiad ar nos Iau 23 Mai, 6pm yn cynnwys dehongliad BSL gan Cathryn McShane-Kouyaté, a disgrifiad sain.
Wrth edrych ar y llwyfan o'r awditoriwm, bydd Cathryn yn sefyll ar ochr dde'r llwyfan.
- 21 Mai, 18:00 ARCHEBWCH NAWR
- 23 Mai, 18:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Family
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Family
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen