Dick Whittington
Mae'r gath mas o'r cwd... Mae Dick Whittington yn dod i'r Lyric yn 2026!
Bydd y pantomeim teuluol clasurol hwn yn llawn gwisgoedd disglair, caneuon gafaelgar, chwerthin iach, a hen ddigon o ddrygioni panto!
Ar ôl i Dick sylweddoli ei fod heb yr un geiniog, mae'n dechrau ar daith i Lundain, lle mae'r strydoedd yn llawn aur yn ôl y sôn. Ac, wrth gwrs, mae ei gath ddibynadwy yn ymuno ag ef ar gyfer yr antur hon.
Gallwch ddisgwyl hwyl tylwyth teg, setiau hudolus, a chast trawiadol, a byddwch chi'n cymeradwyo, yn bwio, ac yn canu o'r dechrau i'r diwedd.
Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer Dick Whittington yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin — traddodiad hudolus Nadoligaidd nad oes neb am ei golli!
Yn dilyn llwyddiant Snow White, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth Imagine Theatre unwaith eto eleni.
Archebwch nawr am brisiau 2025
Bydd y tocynnau'n aros ar bris 2025 tan 2026 - archebwch nawr ac arbedwch ar bob tocyn Dick Whittington
Gostyngiad Grŵp:
Prynwch 10+ a bydd pob tocyn ar y pris consesiwn.
Prisiau Tocynnau Cynnar
Gostyngol: £16.50, £14.50 & £58
Safonol: £20, £18 & £72
Premiwm: £23, £20 & £80
Prisiau Tocynnau ar ôl 1 Hydref 2026
Gostyngol: £17.50, £15.50 & £62
Safonol: £22, £20 & £80
Premiwm: £24, £22 & £88
Rhybudd
Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.
Eistedd ar Liniau
Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.
Perfformiad BSL
Nos Wener 18 Rhagfyr 7pm
Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2pm
Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)?
Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Bydd y cyfieithydd yn ar y dde ochr y llwyfan (wrth edrych o'r gynulleidfa).
Perfformiad Ymlaciedig
Nos Fercher 16 Rhagfyr 6pm
Bore Gwener 18 Rhagfyr 10am
Beth yw perfformiad ymlaciedig? Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig.
Dim pyrotechneg na goleuadau strôb
Bydd y sain hefyd ar lefel is
Bydd y goleuadau tŷ yn aros ymlaen ond yn pylu
Bydd y gynulleidfa’n gallu mynd a dod o’r awditoriwm os dymunant.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'n tim Swyddfa Docynnau ar theatrau@sirgar.gov.uk neu 0345 2263510
Gweler y stori weledol ar gyfer Y Lyric yma.
- 10 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 11 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 12 Rhag, 12:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 12 Rhag, 17:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 14 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 16 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver | Relaxed)
- 17 Rhag, 14:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 18 Rhag, 10:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver | Relaxed)
- 18 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard | BSL)
- 19 Rhag, 12:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 19 Rhag, 17:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 20 Rhag, 12:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 20 Rhag, 17:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 22 Rhag, 14:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard | BSL)
- 22 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 23 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 23 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 24 Rhag, 11:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 24 Rhag, 15:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 27 Rhag, 12:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 27 Rhag, 17:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 28 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 28 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard)
Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen