Dreamcoat Stars
Mae sêr Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat yn canu'r caneuon mwyaf poblogaidd yn y sioe lwyfan wych hon!
Mae Dreamcoat Stars yn ôl eto gyda'u 6ed taith o amgylch y DU, gan ddod ag adloniant cerddorol byw anhygoel i'r genedl. Profwch noson fwyaf y DU o ganeuon enwog yn y gyngerdd gerddorol llawn sêr hon sy'n cynnwys caneuon a threfniannau newydd sbon.
Mae'r gyngerdd yn cynnwys caneuon o hoff glasuron y genedl o'r West End a Broadway, Les Misérables, We Will Rock You, The Greatest Showman, Dirty Dancing, Rocky Horror, Saturday Night Fever, Mamma Mia, a chaneuon gafaelgar y Jersey Boys.
Dewch i fwynhau eich holl hoff gynyrchiadau mewn un noson epig.
Teimlwch bŵer lleisiol syfrdanol pedwar canwr gwefreiddiol o'r sioe boblogaidd fyd-eang Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat yn dod at ei gilydd ar gyfer noson fythgofiadwy o theatr gerddorol. Mae'r cynhyrchiad campus hwn yn siŵr o'ch diddanu, a does dim amheuaeth y byddwch chi'n dal i ganu'r holl ffefrynnau yr holl ffordd adref!
Prynwch eich tocynnau nawr!
Nodwch: Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys mwg a goleuadau theatrig.
Tocynnau | £27.50
- 16 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: RED Entertainment
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: RED Entertainment
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli