G4 20th Anniversary Tour
Mae grŵp harmoni lleisiol gorau'r DU a sêr gwreiddiol y rhaglen The X-Factor yn dathlu dau ddegawd yn llygad y cyhoedd gyda sioe ben-blwydd ysblennydd.
Mae G4 wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd â'u harmonïau anhygoel a'u lleisiau gwych ers iddynt ymddangos ar gyfres gyntaf The X Factor yn 2004. Mae cyfuniad unigryw'r grŵp o hyfforddiant clasurol ynghyd ag ymagwedd arloesol tuag at glasuron poblogaidd yn golygu eu bod yn cael eu hystyried yn 'Feistri Popera' ac mae ganddynt lu o gefnogwyr ffyddlon ledled y byd.
Dyma daith fwyaf y grŵp hyd yma, lle byddant yn bwrw golwg yn ôl ar eu siwrnai hyd yn hyn; taith a fydd hefyd yn eu harwain at bennod nesaf eu gyrfa wrth iddynt dorri tir newydd. Y daith hon, sy'n cynnwys 72 dyddiad, fydd y cyfle cyntaf i glywed y traciau newydd arbennig o'u halbwm stiwdio i ddathlu 20 mlynedd (a fydd yn cael ei ryddhau yn ystod hydref 2024) ac mae disgwyl mawr amdano. Bydd hefyd yn cynnwys caneuon mwyaf poblogaidd G4, megis eu dehongliad gwefreiddiol o 'Bohemian Rhapsody', eu fersiwn swynol o 'Creep', yn ogystal â 'Nessun Dorma' sy'n cyfareddu. Fel rhan o bennod newydd y grŵp, maent yn falch iawn o groesawu Jai McDowall i'r criw, sef enillydd 'Britain's Got Talent', sy'n eithriadol o dalentog.
Heb os, bydd lleisiau anhygoel, presenoldeb llwyfan ac egni heintus y band yn gwneud ichi obeithio nad oes yn rhaid i'r llenni byth gau.
Beth am fynd i'r sesiwn 'Croeso a Chyfarch' cyn y sioe lle gallwch dynnu ychydig o luniau a chasglu llofnodion, a hynny wyneb yn wyneb mewn awyrgylch personol?
‘Hail the Kings of Popera!’
Daily Mail
Cwrdd a Chyfarch 6yh
Tocynnau | £25.50, £28 & VIP Cwrdd a Chyfarch £60
- 7 Meh, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Amick Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Amick Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen