Gwion Bach a Ceridwen y Wrach

Mae Gwion bach yn fachgen direidus, chwilfrydig... ac yn methu stopio gofyn cwestiynau! Pan gaiff swydd yn troi pot hud Ceridwen, mae’n rhoi cant y cant—ond dim ond un camgymeriad bach sydd ei angen i newid popeth. 


Pan aiff tri dropyn o hud i’r geg anghywir, mae helfa wyllt yn dechrau—gyda gwrach bwerus, chwaer hunanfalch, brawd anniben, ac assistant sydd eisiau dianc! 


✨ Yn llawn hiwmor, hud a helyntion 

✨ Cymeriadau lliwgar a straeon doniol 

✨ Perffaith i’r teulu cyfan 


A all un camgymeriad newid tynged pawb? 

Beth bynnag fydd y canlyniad, bydd y daith yn llawn peryglon, ond llawer mwy o chwerthin ac yn profi unwaith bod calon hardd yn llawer mwy gwerthfawr na gwyneb selffi! 

Dewch gyda ni ar antur Gwion a gweddill y cymeriadau lliwgar dros y Nadolig hwn!


Oed: 5+ 

Sioe Iaith Gymraeg

Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe. 


Tocynnau: £14 (1 tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl yn mynychu)  

Cysylltwch â'r swyddfa docynnau i archebu neu gadw tocynnau. E-bostiwch - theatrau@sirgar.gov.uk neu ffoniwch - 0345 226 3510

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen