Gŵyl Undod Hijinx | Hijinx Unity Festival

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydau cynhwysol ac anabledd mwyaf Ewrop ac mae'n dychwelyd i Theatr y Ffwrnes, Llanelli yr haf hwn!

Bydd yr ŵyl unwaith eto yn cynnig diwrnod penigamp gyda theatr a chelfyddydau cynhwysol ac anabledd sydd ymhlith y gorau ledled y byd - gweler yr amserlen lawn isod.

Am ddim, dim rhaid i brynu tocyn. Trowch lan a mwynhewch!

FöhnFrisuren - tanzbar_bremen

Theatr stryd hudolus all ymddangos yn rhywle sy’n dwyn y sgrin fawr i strydoedd Llanelli. Gan ddefnyddio seiniau o ffilmiau enwog, wedi eu cymysgu â rhythmau llawen, wigiau rhyfeddol a chwythwyr dail, mae tanzbar_bremen yn perfformio, byrfyfyrio a chreu golygfeydd o’r ffilmiau i gyffwrdd y galon, elfennau hedfan anturus, brwydrau tanllyd a phob math o sypreisus!

Fresta Poética: Yn chwareus a difyr, mae Fresta Poética yn daith sy’n gwneud symudiadau, ystumiau a dawnsiau bach pob corff yn weladwy, a gallu’r corff yng nghyswllt ei amgylchedd.

Enter the Robots: “Helo Bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Nid oes raid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed lan. Mae hyn yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni ofalu am bopeth o hyn ymlaen.”

Yn y dyfodol mae pawb yn cael robot yn anrheg gan eu hawdurdod lleol. Bydd bywyd yn siŵr o fod yn haws!! Beth allai fynd o’i le?

Mae Enter the Robots yn sioe theatr stryd chwareus i’r gynulleidfa gymryd rhan ynddi sy’n gofyn, pwy sy’n rheoli go iawn yn oes yr AI?

“Petai’r robot yn digwydd camweithredu, sy’n annhebygol, ni fydd eich awdurdod lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb.”

Ariennir y prosiect hwn gan Cultural Bridge, sy’n dathlu partneriaethau artistig dwyochrog rhwng y Deyrnas Unedig a’r Almaen trwy gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, y Cyngor Prydeinig, Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut Llundain a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru.

Info Cyflym

  • Cwmni: Hijinx Theatre Company
  • Categori: Outdoor Arts
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Hijinx Theatre Company
  • Categori: Outdoor Arts
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli