Kind Hearts and Coronets
Ignition yn cyflwyno
Kind Hearts and Coronets
Addasiad gan Derek Webb o'r nofel wreiddiol a ysbrydolodd y clasur o gomedi Ealing. Cyfarwyddir gan Peter Richards.
Mae Archie Gascoyne Williams yn ddyn sydd ar berwyl. Mae'n dod o deulu hir, nodedig (a chyfoethog iawn) - Y Gascoynes - trwy ei fam. Ond cafodd ei gwrthod gan y teulu oherwydd ei bod wedi priodi islaw ei thras trwy briodi gwerthwr teithiol mewn dillad isaf merched. Serch hynny, bydd Archie yn darganfod, yn ôl deddfau etifeddeg, mai ef fyddai'n etifeddu teitl Iarll Gascoyne (a ffortiwn y teulu), pe bai'r Gascoynes sydd yn y ffordd yn marw.
Felly, mae'n penderfynu gweithio ei ffordd i fyny'r goeden deuluol nes iddo etifeddu ffortiwn y teulu Gascoyne trwylofruddio'r aelodau hynny o'r teulu sydd yn ei ffordd. Ac, yn ogystal â cheisio ennill y teitl Gascoyne, mae hefyd yn ceisio cwrso Sibella, chwaer hyderus a phert ffrind gorau Archie, Graham Hallward, yn ogystal ag Edith Gascoyne a morwyn plant. Dyw bywyd byth yn syml, nag ydyw?
Mewn pleidlais cyrhaeddodd Kind Hearts and Coronets rif 6 ar restr y BFI o ffilmiau gorau Prydain yr 20fed ganrif! Mae'r fersiwn llwyfan newydd sbon hon wedi'i haddasu gan Derek Webb o'r nofel wreiddiol gan Roy Horniman, a ysbrydolodd y clasur o gomedi Ealing. Roedd y ffilm wreiddiol yn serennu Alec Guinness, a chwaraeodd bob un o'r chwe pherson a lofruddiwyd.
Canllaw oed: 12+
Hyd y perfformiad: tua 2 awr, ynghyd ag egwyl.
Tocynnau: £16.50
- 29 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Ignition Theatre
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Ignition Theatre
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni