Let Life Dance
Yn y sioe ddawns theatr broffesiynol hon gallwch ddisgwyl perfformiadau pwerus gan gast o ddawnswyr ag anabledd a heb anabledd sy’n llawn o gydymdeimlad â’n profiad
dynol. Rydym yn dathlu gwahaniaeth ac yn toddi rhwystrau i greu’r amodau ar gyfer agor calonnau yn ddiddiwedd. Dilynwch daith y cast wrth iddyn nhw ganfod eu ffordd trwy
ddyfroedd heriol bywyd o droadau, troelliadau, ymyrraeth ac anhrefn wrth iddyn nhw ddarganfod sut i gysylltu yn ôl â hwy eu hunain, ei gilydd ac ildio i ddawns gyffrous bywyd.
Wedi ei choreograffu gan y coreograffydd arobryn Jessie Brett, mae’r sioe yn archwilio beth sy’n digwydd pan fyddwn yn mynd yn erbyn ein natur ein hunain. Sut y gall bywyd
ddawnsio trwom mewn byd llawn cyfyngiadau, rhwystrau a thrafferthion? Wedi ei blethu â cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr, Jered Sorkin,
rydym yn gwybod bod angen pob un ohonom, fel darnau jig-so cymhleth, i greu cydbwysedd yn y byd. Mae rhywbeth i’w ddysgu o bob profiad dynol.
Mae Humans Move yn Gwmni Dawns Cynhwysol sy’n dod i’r amlwg sy’n ymdrechu i gael ei arwain gan anabledd.
Addas i bobl 8+
Tocynnau £16 | £15
- 24 Medi, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Humans Move
- Categori: Dance
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Humans Move
- Categori: Dance
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni