Mania | The ABBA Tribute

O fwrlwm y West End yn Llundain, daw MANIA, y sioe deyrnged ABBA sy'n cael ei hystyried yn rhif un yn y byd. 

Cyngerdd arbennig sy'n dathlu cerddoriaeth ABBA mewn ffordd barchus a phleserus, mae'r cynhyrchiad hwn yn adfywio atgofion o pan oedd ABBA yn rheoli'r radio. 

Mae dros 40 mlynedd ers i ABBA ennill Cystadleuaeth Eurovision Song Contest ac maent wedi llenwi ein bywydau gyda cherddoriaeth ers hynny. 

Nawr yw'ch cyfle i ddiolch iddynt am y gerddoriaeth! 

Does dim amheuaeth y bydd y noson hon yng nghwmni MANIA yn un i'w chofio, i ffans hen a newydd. Os ydych chi'n chwilio am esgus i gael parti, hel atgofion neu gael eich diddanu, yna MANIA: The ABBA tribute yw'r sioe i chi! 

Gwisgwch eich 'sgidiau platfform a'ch trowsus fflêrs ac ymunwch yn yr hwyl yn canu clasuron fel Mamma Mia, Voulez Vous, Dancing Queen, Winner Takes It All, Super Trouper a llawer, llawer mwy.

Tocynnau | £30.50, £27.50, £20

Info Cyflym

  • Cwmni: Handshake Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Handshake Ltd
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen