Owen Money: Jukebox Heroes Fourth and Final Tour | Ffwrnes

Wedi llwyddiant ysgubol Owen Money’s Jukebox Heroes yn 2016 ac yna Owen Money’s Jukebox Heroes II yn 2018, ynghyd â'r drydedd sioe yn 2021, mae Owen Money yn ei ôl â sioe fyw arall lawn talent sy'n cynnwys cerddoriaeth a glywir ar ei raglenni radio poblogaidd ar y penwythnos ar BBC Wales, heb anghofio ei gomedi unigryw a'i ffraethineb Cymreig!

Ie wir, Owen Money’s Jukebox Heroes IV! Fodd bynnag, y bedwaredd sioe yw'r un olaf!….

I gloi'r gyfres theatr hynod boblogaidd hon, sydd wedi ymweld â theatrau dan ei sang ledled y wlad,byddwn unwaith eto'n gweld ei fand gwych yn ymuno ag Owen ar y llwyfan, dan arweiniad M.D Ian Kimber, a fydd yn cyfeilio i rai actau teyrnged enwogion y byd cerddoriaeth.

Yn ymuno ag Owen a'i fand y mae merched 'Like ABBA' a fydd yn rhoi ail fywyd i ganeuon enwog y grŵp anhygoel hwnnw, fel y gân addas iawn 'Money, Money, Money' …

Mae synau eiconig ac anhygoel Phil Collins yn atseinio yn llais syfrdanol James Alexander …

Byddwch yn cael eich hudo wrth i Katie Mittell gamu ar y llwyfan mewn teyrnged unigryw i'r gantores chwedlonol sydd wedi ennill gwobr Grammy, sef Cher …

Yn olaf, sut y gallech chi gael cyfres o 'Jukebox Heroes' heb dalu teyrnged i'r adeg pan oedd The Wurlitzers yn canu Roc a Rôl!…

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu wrth i Darren Graceland Jones bortreadu 'ffigur mwyaf eiconig yr 20fed ganrif', y Brenin Roc a Rôl ... Elvis Presley! 

Tocynnau | £21.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Rainbow Valley Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Rainbow Valley Productions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli